Mae Liz Saville Roberts yn galw am ddirwyn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ben “unwaith ac am byth”.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth iddi ymateb i’r hyn mae David TC Davies wedi’i ddweud am geiswyr lloches sy’n ceisio croesi’r Sianel.

Ar Twitter, dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy fod “symbylu mudwyr anghyfreithlon i beryglu eu bywydau drwy groesi’r Sianel yn gyfnewid am arian trethadalwyr yn anghywir, yn beryglus ac yn anghyfrifol dros ben”.

“Dyna pam dw i wedi gwrthod cais Llywodraeth Lafur Cymru,” meddai, wrth sôn am gais Llywodraeth Lafur Cymru i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i San Steffan a fyddai’n bosib sicrhau bod ceiswyr lloches ifainc sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig ar eu pennau eu hunain yn gallu cael mynediad at daliadau cymorth cyfreithiol.

Ar hyn o bryd, mae rhaglen beilot incwm sylfaenol yng Nghymru’n cynnig £1,600 bob mis am ddwy flynedd i bobol ifanc sy’n gadael gofal.

Mae’r cynnig hwnnw’n agored i rai Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASCs) yn barod, er bod adroddiadau diweddar yn y wasg yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru’n ceisio ymestyn y peilot i gynnwys ceiswyr lloches.

Yn sgil swm yr incwm sy’n cael ei dderbyn drwy’r taliad incwm sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru ar ddeall y byddai’n annhebygol y byddai ceiswyr lloches ifainc yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol pe baen nhw ei angen, er enghraifft er mwyn eu helpu rhag cael eu hallforio.

‘Rhithdybiau mawredd ffiwdal’

“Mae Mr Davies yn dioddef o rithdybiau mawredd ffiwdal,” meddai Liz Saville Roberts, wrth ymateb i sylwadau David TC Davies.

“Dydy hi ddim o fewn ei orchwyl i gymeradwyo na gwrthod ceisiadau gan Lywodraeth Cymru, nac i sathru ar ein democratiaeth.

“Mae’n bryd ymddeol swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru unwaith ac am byth.”

Gofyn i San Steffan sicrhau bod ceiswyr lloches ifainc yn gallu cael mynediad at gymorth cyfreithiol

Llywodraeth Cymru’n pryderu nad yw plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yn gymwys am gymorth cyfreithiol os ydyn nhw’n derbyn incwm sylfaenol