Dydy’r gostyngiad o 10.4% i 10.1% mewn chwyddiant ddim yn adlewyrchu nod Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o haneru’r ffigwr yn 2023.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi bod cwymp o 10.4% i 10.1% wedi bod mewn chwyddiant rhwng mis Chwefror a Mawrth.

Er y gostyngiad bach, mae’r ffigyrau yn groes i’r gobeithion o ddisgyn o dan ffigyrau dwbwl.

Cyrhaeddodd y ffigwr record o 11.1% fis Hydref y llynedd, ac mae wedi bod yn y ffigyrau dwbwl ers mis Medi y llynedd.

Mae’r ffigwr sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Ebrill 19) yn cyfateb i’r hyn oedd y ffigwr ym mis Ionawr.

Addewid Rishi Sunak heb ei wireddu

Ymysg pum addewid gafodd eu cyhoeddi gan Rishi Sunak ym mis Ionawr roedd y gobaith o “haneru chwyddiant eleni i leddfu costau byw a rhoi sicrwydd ariannol i bobol”.

Er hynny, mae’r ffigwr wedi parhau i fod yn uwch dros chwarter cynta’r flwyddyn hon nag y bu ers degawdau.

Ond er nad oes fawr o gynnydd wedi ei wneud wrth geisio cyflawni’r adduned hyd yma, rhagwelir y bydd chwyddiant yn parhau i ostwng dros y misoedd i ddod.

“Nid oes y fath beth â chwymp awtomatig ym mhrif gyfradd chwyddiant,” meddai’r Canghellor Jeremy Hunt.

“Dyna pam fod gennym ni gynllun, ac os ydyn ni’n mynd i leihau’r pwysau ar deuluoedd mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n cadw at y cynllun hwnnw a’n bod ni’n ei wireddu er mwyn haneru chwyddiant eleni, fel mae’r prif weinidog wedi’i addo”.

Fodd bynnag, mae rhai economegwyr wedi beirniadu’r addewid o haneru chwyddiant, gan ddweud nad yw’n rywbeth y gall y Llywodraeth ei reoli mewn gwirionedd, gan fod ffactorau allanol hefyd yn ei ddylanwadu.

Prisiau bwyd yn parhau i godi

Er bod gostyngiad wedi bod ym mhrisiau tanwydd ceir a chost olew gwresogi, a bod prisiau dillad, dodrefn a nwyddau cartref yn cynyddu’n arafach nag yr oedden nhw’r llynedd, nid dyma ddigwyddodd gyda phrisiau bwyd.

Dywed Grant Fitzner, prif economegydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, eu bod yn dal i ddringo’n serth, gyda chwyddiant prisiau bara a grawn yn uwch nag erioed.

Fis diwethaf, cynyddodd prisiau bwyd ar y gyfradd gyflymaf ers 45 mlynedd, gyda chwyddiant bwyd a diodydd di-alcohol yn cynyddu i 19.2% o gymharu â 18% ym mis Chwefror.

“Mae lefelau chwyddiant uchel yn parhau i roi pwysau sylweddol ar gyllid cartrefi a busnesau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobol trwy’r heriau hyn, gan amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a helpu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio’r pwerau sydd ganddi i gael yr economi yn ôl ar y trywydd iawn.”