Mae Tŷ Peblig yng Nghaernarfon wedi cael grant gan Adra Tai Cyf er mwyn cynnal digwyddiadau, a bydd paned yno am 6 o’r gloch nos Lun (Ebrill 24) i drafod syniadau.
Gyda sawl syniad wedi cael eu hawgrymu yn barod, pwrpas y digwyddiad fydd dod o hyd i ragor o syniadau eto.
Yn ôl Dewi Jones, cynghorydd ward Peblig, mae’r cyfarfod yn agored i unrhyw un ac mae diddordeb ganddyn nhw’n arbennig mewn pobol ifanc sydd eisiau cymryd rhan a lleisio’u barn.
Syniadau
“Bwriad y cyfarfod yma ydy penderfynu beth yn union rydym am wneud efo’r arian,” meddai Dewi Jones wrth golwg360.
“Rhai o’r syniadau sydd wedi cael eu codi yn barod yw rhyw fath o barti plant, rhywbeth yn ymwneud â bwyd, bwyd am ddim i bobol gan fod amseroedd yn gallu bod yn anodd o ran arian ar hyn o bryd.
“Syniad arall yw gwneud rhywbeth efo blodau er mwyn harddu’r ardal, efallai gallu cynnig potiau blodau neu hanging baskets neu’r math yna o beth, am bris rhad i bobol.
“Dyna rai o’r syniadau, wedyn gawn ni weld beth arall ddeith yn y cyfarfod wythnos nesaf.”
Dod â’r gymuned ynghyd
Gyda Thŷ Peblig yn ganolbwynt i’r gymuned, mae’r cyfarfod am ddod â phobol ynghyd i wneud rhywbeth cadarnhaol dros yr ardal.
Teimla Dewi Jones fod gan bobol rôl allweddol i’w chwarae yn hynny o beth, a bod ganddyn nhw arbenigedd hefyd, a bod eu cyfraniad fel gwirfoddolwyr yn werthfawr.
“Rwy’n meddwl bod cynnal digwyddiadau yn dod â phobol at ei gilydd ac yn annog rhyw deimlad o gymuned,” meddai.
“Mae hynny bob tro’n beth da.
“Hefyd, rwyt ti’n gobeithio os wyt ti’n gwneud pethau fel plannu blodau, bod y math yna o beth yn mynd i arwain at bobol yn ymfalchïo yn yr ardal ac eisiau gweld yr ardal yn parhau fel lle braf i fyw.
“Rydym hefyd eisiau tynnu pobol ifanc i mewn.
“Rwy’n meddwl bod pobol ifanc weithiau’n cael ychydig o enw drwg; efallai bod hwn yn ffordd o drio newid hynny.
“Y peth ydy, dydw i ddim yn meddwl bod dim un person ifanc yn ddrwg, a dweud y gwir.
“Gobeithio y byddan ni’n rhoi rhywbeth iddyn nhw ei wneud.
“Rydym yn gobeithio gweithio efo’r gwasanaeth ieuenctid a gweld beth allwn ni gynnig iddyn nhw er mwyn eu cadw nhw’n brysur, ac er mwyn iddyn nhw gyfrannu rhywbeth at eu cymuned.
“Mae Tŷ Peblig yna ar gyfer pobol y stad yn bennaf, felly dwi’n gobeithio y bydd pobol yn troi allan er mwyn dweud beth maen nhw eisiau gweld, cynnig syniadau a gobeithio bod yn fodlon gwirfoddoli yn ystod y sesiynau er mwyn cynnig unrhyw arbenigedd sydd ganddyn nhw, neu’r math yna o beth.”