Bydd pobol â thai gwag hirdymor yn Sir Gaerfyrddin yn cael cynnig help i ddod â nhw’n ôl i safon byw, ond gallen nhw wynebu gorfodaeth i wneud hynny, neu dderbyn gorchymyn prynu gorfodol.
Mae cynghorwyr sir wedi cymeradwyo polisi sy’n anelu at ostwng nifer y tai gwag preifat o 1,984 i 1,500 mewn tair blynedd.
Wrth siarad yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn, dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod Cabinet dros Dai, bod 62% o’r 1,983 eiddo wedi bod yn wag ers dros ddwy flynedd.
Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn wag ers dros ddeng mlynedd, meddai.
“Rhaid i ni gymryd camau i fynd i’r afael â hyn,” meddai’r Cynghorydd sy’n cynrychioli Plaid Cymru.
“Rhaid i ni gydnabod nad ydy hi’n dderbyniol bod tai yn wag am gyfnod hir o amser.”
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans mai Sir Gaerfyrddin sydd â’r record ail orau yng Nghymru am ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, ond fod angen gwneud mwy o ystyried y galw am dai.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae dros 4,000 o bobol yn aros am dai, a dywedodd y Cynghorydd Linda Evans fod 872 o’r rheiny “yn cyflwyno fel digartref”, gyda 137 mewn llety dros dro, gan gynnwys 31 teulu. Poblogaeth y sir yn 2021 oedd 187,900.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig benthyciadau di-log o hyd at £25,000 i berchnogion tai gwag i wneud yr eiddo’n addas i fyw ynddyn nhw, gyda grantiau ar gael i adfer tai fyddai’n cael eu prydlesu i helpu pobol sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae cynghorau yn gallu gorfodi pobol i weithredu, gan gynwys gorfodi pobol i werthu a rhoi gorchmynion prynu gorfodol.
‘Sefyllfa ddifrifol’
Dywedodd y Cynghorydd Llafur Kevin Madge ei fod yn teimlo y dylid gwneud mwy gyda gorchmynion prynu gorfodol, gan ychwanegu bod un tŷ yn ei ward yn Garnant wedi bod yn wasg ers 40 mlynedd.
“Does dim amheuaeth bod y sefyllfa dai yn ddifrifol,” meddai.
Ychwanegodd fod gweld tai cyngor gwag “wir yn ei wylltio”, ac y dylai’r awdurdodau brynu mwy o hen dai cyngor yn ôl.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans fod gan Sir Gaerfyrddin 400 tŷ cyngor gwag ychydig dros flwyddyn yn ôl, ond fod y ffigwr wedi gostwng i 230.
Mae disgwyl bod tua 200 allan o dros 9,000 o dai a fflatiau’r cyngor sir yn wag ar unrhyw amser, meddai.
Mae’r polisi newydd yn eithrio eiddo cyngor gwag ac eiddo sydd wedi’u cofrestru i landloriaid cymdeithasol.
Ond roedd y Cynghorydd annibynnol Sue Allen yn teimlo y dylai tai cyngor gael eu cynnwys hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr aelod cabinet dros adnoddau, fod y weinyddiaeth Plaid Cymru-Annibynnol wedi dod â thua 700 o dai gwag preifat i ddefnydd eto dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Mae’r camau’n rhan o weithredu ehangach i gynyddu’r stoc dai, gan gynnwys adeiladu tai cyngor newydd, meddai.
O fis Ebrill nesaf, bydd tai gwag hirdymor yn Sir Gaerfyrddin yn gorfod talu premiwm treth cyngor, ac mae arweinwyr y cyngor yn gobeithio y bydd hynny’n ysgogi mwy o berchnogion i weithredu.
Gofynnodd y Cynghorydd Llafur Michael Thomas a oedd y cyngor wedi ystyried tai fel ‘pods’ fel llety dros dro.
Atebodd y Cynghorydd Linda Evans drwy ddweud eu bod nhw wedi edrych ar hynny, ac efallai y byddan nhw’n edrych ar y mater eto ryw ddydd, ond eu bod nhw’n ffafrio darparu llety parhaol i bobol yn hytrach na llety dros dro.