Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r oedi “hynod siomedig” wrth lansio ap newydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Cychwynnodd yr ap ei gyfnod prawf cyhoeddus ddydd Llun (Ebrill 17), ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r ffaith ei fod bron bedair blynedd ar ôl fersiwn Lloegr.
Cafodd ap y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr ei lansio fis Ebrill 2019, er mwyn galluogi cleifion i drefnu a rheoli apwyntiadau, archebu presgripsiynau, gweld cofnodion meddygol a gwirio eu symptomau.
Daeth y lansiad yn dilyn cyfnod o brofi estynedig rhwng Medi a Rhagfyr 2018.
Bellach, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wrthi’n profi fersiwn eu hunain o’r ap, er mwyn galluogi pobol i ymgysylltu’n ddigidol â’r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae’r ap eisoes wedi bod trwy gyfres o brofion preifat oedd yn cynnwys 700 o bobol ar draws deg meddygfa teulu ledled Cymru.
“Roedd yr adborth a gafwyd o gyfnod cyntaf y profion beta yn gadarnhaol a helpodd e i ganfod sawl byg bach, sydd eisoes wedi cael eu datrys. Mae’r cynnwys hefyd wedi cael ei wella,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
Ddydd Llun (Ebrill 17), symudodd yr ap, sydd ar gael i’w lawrlwytho o siop apiau Apple a Google, ymlaen at y profion beta cyhoeddus.
Bydd rhai swyddogaethau megis mynediad at 111 a’r gwasanaeth rhoi organau ar gael yn syth gyda swyddogaethau pellach. fel y gallu i weld cofnodion personol ac ail-archebu presgripsiynau, ar gael yn nes ymlaen.
Dywed Eluned Morgan ei bod hi am i’r ap fod yn “un drws digidol sy’n eich arwain at bob gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol”.
‘Dirfawr angen moderneiddio’r gwasanaeth iechyd’
Fodd bynnag, mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio lansio’r ap yn gynharach.
“Ar ôl bron i bedair blynedd a hanner ers sefydlu ap Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr, dim ond fersiwn beta y mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru wrthi’n ei chyflwyno i gleifion o Gymru sydd, medden nhw eu hunain, wedi profi bygiau ac nid dyma’r fersiwn derfynol o’r ap,” meddai.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am fwndel technoleg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ers cyn cof, oherwydd mae dirfawr angen moderneiddio’r Gwasanaeth Iechyd.
“Mae cyflymder y cyflwyniad hwn wedi bod yn hynod siomedig; Mae angen i Lafur symud ymlaen.”
Dysgu gan Loegr a’r Alban
Fodd bynnag, yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi dysgu o fersiynau Lloegr a’r Alban o’r ap.
“Mae’r fersiwn o Ap GIG Cymru sydd wedi’i ryddhau gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn feta gyhoeddus llawn swyddogaethau, i gasglu adborth ar yr hyn y mae’r cyhoedd eisiau ei weld yn yr ap,” meddai llefarydd.
“Mae Cymru wedi dysgu gwersi o’r dulliau a ddefnyddiwyd yn Lloegr a’r Alban, ac rydym am sicrhau bod yr ap yng Nghymru yn ymateb i anghenion trigolion Cymru.
“Mae GIG Cymru yn gweithio ar y cyd â meddygfeydd teulu i’w cynorthwyo drwy’r newidiadau i’w ffordd o weithio, ac mae’n bwriadu i swyddogaethau’r ap dorri ar draws pob sector o iechyd a gofal cymdeithasol.”