Mae angen gwneud gwelliannau ar unwaith i gadw cleifion yn ddiogel mewn Uned Iechyd Meddwl ger Caerdydd.

Gwelodd arolygwyr dystiolaeth bod staff wedi gorfod atal cleifion yn gorfforol heb yr hyfforddiant gofynnol ar Wardiau Pinwydd ac Onnen yn Uned Hafan y Coed Ysbyty Prifysgol Llandochau.

Yn ôl yr arolygwyr, roedd hynny’n golygu nad oedd ganddyn nhw’n sicrwydd bod y staff na’r cleifion yn cael eu hamddiffyn na’u diogelu’n llawn rhag cael eu hanafu.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi anfon llythyr sicrwydd ar unwaith at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Fodd bynnag, wrth ymweld yn ddirybudd ar dri diwrnod ym mis Ionawr, fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru weld bod y staff ar y wardiau yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.

Wrth ymateb i holiadur, dywedodd y cleifion fod y gofal gan yr ysbyty naill ai’n dda neu’n dda iawn, a daeth yr arolygwyr i’r casgliad bod y staff yn ymgysylltu’n barchus â’r cleifion ac ymwelwyr.

Fodd bynnag, dim ond ychydig dros hanner staff Ward Onnen oedd wedi cwblhau hyfforddiant ‘Rheoli Ymddygiad Ymosodol’ gorfodol.

Er bod cynlluniau gofal a thriniaeth cleifion yn drefnus a hawdd i’w deall, doedd cofnodion rhoi meddyginiaeth ddim yn cael eu llofnodi a’u dyddio’n gyson a gallai hynny beri dryswch i staff a risg i’r cleifion, meddai’r Arolygiaeth.

Mae’r arolygwyr wedi argymell y dylai’r uned roi proses ar waith er mwyn cael adborth gan gleifion, ac y dylid adolygu anghenion iaith a chyfathrebu penodol er mwyn sicrhau bod eu gwasanaeth yn hygyrch hefyd.

‘Testun pryder’

Dywed Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fod eu harolygiad wedi gweld llawer o feysydd i’w gwella, a bod angen sicrwydd ar unwaith ynglŷn â rhai ohonyn nhw er mwyn lleihau’r risg i’r cleifion, ymwelwyr a’r staff.

“Roedd yn amlwg bod staff ar y wardiau yn frwdfrydig am eu rolau a bod y cleifion yn cael gofal o ansawdd, ar y cyfan,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’n destun pryder gweld lefelau isel o hyfforddiant hanfodol gorfodol ar y wardiau hyn ac mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd sicrhau y caiff cynlluniau cadarn eu rhoi ar waith i hyfforddi staff hyd at y lefel ofynnol.

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi llunio cynllun sy’n nodi camau gwella o ganlyniad i’r gwaith arolygu hwn.

“Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn monitro cynnydd y bwrdd iechyd yn erbyn y cynllun hwn.”