Mae papurau bro wedi eu disgrifio fel “mudiad grymus yn hanes y Gymraeg”. A’r her at y dyfodol yw denu gwaed ifanc…
Mae hanner canrif ers i’r papur bro cyntaf gael ei sefydlu yng Nghymru, a hynny yn y brifddinas yng Nghaerdydd.
Syniad y diweddar Dr Meredydd ‘Merêd’ Evans oedd dechrau papur Y Dinesydd yn y 1970au, a daeth degau o bapurau tebyg yn un rhes o bob cwr o Gymru ar ei ôl, gan werthu yn eu miloedd.