Mae gwaith ymchwil Seren Lois yn ddifyr iawn – ceisio gweld a oes ffyrdd o ddweud a fydd chwaraewyr rygbi yn cael anafiadau, CYN iddyn nhw ddioddef anaf.
Ac fel na phe bai cwblhau PhD yn ddigon o waith, mae’r ymchwilydd prysur wrthi’n hyfforddi i fod yn ffisiotherapydd hefyd.
Daw Seren o bentref y Parc ger y Bala yng Ngwynedd, a bellach mae hi ar ei hail flwyddyn yn astudio gradd mewn ffisiotherapi, ac wrth ei bodd â chwaraeon ac yn hoff iawn o godi pwysau.