Mae cyfres newydd yn edrych ar hanes difyr a dwys y mewnfudwyr sydd wedi dod yma, a hynny wrth dyrchu yn achau teulu un wnaeth serennu ar raglen enwog Love Island…
Mae un o gyn-sêr Love Island a’i dad wedi bod ar daith bersonol wrth ddilyn hanes eu teulu yn Jamaica, Iwerddon a Chymru ar gyfer cyfres newydd ar S4C.
Er mai achau Connagh Howard a’i dad Wayne o Gaerdydd ydy canolbwynt Teulu, Dad a Fi, mae’r gyfres yn codi cwestiynau pwysig ynglŷn â hunaniaeth, y teimlad o berthyn a hiliaeth yng Nghymru.
Daeth tad Wayne, Neville, o Kingston yn Jamaica i Southampton ar long yr SS Almanzora yn 19 oed yn 1947, tra bod teulu Connagh ar ochr ei fam yn hanu o Iwerddon ac wedi dod i Gaerdydd rywbryd ar ôl y Newyn Mawr.
Treuliodd yr hanesydd Elin Tomos tua chwe mis yn gwneud yr ymchwil ar gyfer y gyfres, a chyd-deithiodd â Wayne a Connagh i Jamaica ac Iwerddon, a hi sydd i’w gweld yn cyflwyno hanes y teulu i’r ddau ar y gyfres. Ac er mai hanes un teulu sydd dan sylw, mae hanesion mewnfudwyr, fel cyndeidiau Connagh a thad Wayne, yn rhan o wead hanes Cymru.
“Dydy hanes teulu Wayne a Connagh ddim yn stori unigryw yn hanes Cymru,” eglura Elin.
“O ran y Gwyddelod, roedd 18% o boblogaeth Caerdydd yn 1851 wedi cael eu geni yn Iwerddon felly mae yna domen o bobol yng Nghaerdydd neu Gymru’n cerdded o gwmpas efo’r etifeddiaeth Wyddelig yma. Yr un fath efo cenhedlaeth Windrush, dydy hi ddim yn stori am ddau deulu’n unig, mae hi’n rhan o stori ehangach.
“Efo ochr Iwerddon, aethon ni’n ôl i’r 1780au yng ngorllewin Cork, ardal ofnadwy o wledig o’r enw Inchigeelagh. Fe wnaethon ni allu mynd yn ôl i’r union adfail lle rydyn ni’n meddwl y gwnaeth hen, hen, hen nain Connagh gael ei geni.
“Ar yr ochr Jamaican, aethon ni’n ôl i’r 1780au hefyd i’r union bobol gafodd eu caethiwo a’u gorfodi drosodd o Affrica. Doeddwn i ddim wedi breuddwydio y bysan ni’n gallu mynd mor bell â hynna ar yr un ochr – lot o chwilota a lot o ffliwcs hefyd.”
Ar ochr ei fam, Lynda, roedd holl gyndeidiau Connagh yn Wyddelod, fwy neu lai, ac wedi byw drwy’r Newyn Mawr, neu ei waddol, yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg. Roedd y daith yn cynnwys ymweliad â Skibbereen yn Swydd Cork, sef un o’r ardaloedd gafodd eu heffeithio waethaf gan y newyn.
“Aethon ni i Ganolfan Treftadaeth Skibbereen ac roedd gan bob un ohonom ni, gan gynnwys y dyn camera a’r dyn sain, lwmp anferthol yn ein gyddfau yn gwrando ar Teri Kearney, yr hanesydd yno,” eglura Elin.
“Mae o wir yn anodd dirnad a chyfleu’r dinistr wnaeth ddigwydd yn Iwerddon oherwydd y Newyn. Ti’n gwybod am y peth, ti wedi clywed am y Newyn Tatws. Ond mae dysgu amdano fo yna, a mynd i’r mynwentydd yn rhoi elfen hollol wahanol ar yr hanes. Harrowing ydy’r unig air oeddwn i’n gallu meddwl amdano fo pan oeddwn i yno. Fedri di ddim deall sut fedrith cenedl ddod dros y math yna o drasiedi.
“Mae hi’n gyfres am y teimlad o berthyn, hunaniaeth ac agweddau ar hanes Cymru sydd ddim o reidrwydd wedi cael gymaint o sylw, yn arbennig hanes mewnfudwyr. Be sy’n gyffredin yn y ddwy ochr, Jamaica ac Iwerddon, ydy bod pobol wedi gadael eu cartref yn chwilio am fywyd gwell ac mewn ffordd wedi wynebu caledi gwaeth o bosib unwaith roedden nhw wedi cyrraedd Cymru. Dyna sy’n gyffredin ar y ddwy ochr o ran amodau byw’r Gwyddelod yng Nghaerdydd, a’r hiliaeth wnaeth tad Wayne wynebu ar ôl cyrraedd ac etifeddiaeth cenhedlaeth Windrush. Rydyn ni’n cyffwrdd ar themâu reit ddwys, ond pethau sy’n bwysig i’w trafod o fewn cyd-destun hanes Cymru yn ehangach.
“Be rydyn ni wedi’i wneud ydy defnyddio hanes fel cerbyd i drafod [themâu dwys fel hiliaeth a hunaniaeth], mewn ffordd mae o am y dyheu yna o fywyd gwell a sut rydyn ni fel Cymry’n trin pobol sydd wedi symud yma ar draws y degawdau, o’r Gwyddelod i genhedlaeth Windrush. Mae hi’n bwysig eu bod nhw’n cael eu cynnwys yn ein llyfrau hanes a’n rhaglenni hanes ni.”
Hanes a hunaniaeth
Roedd yr ymchwil yn cynnwys lot o “myth busting”, a darganfod nad oedd ambell stori deuluol yn wir wedi’r cyfan. Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r tri ymweld â Chiwba hefyd, gan i Wayne gael ar ddeall fod ei dad-cu wedi’i eni yno. Ond buan y daeth i’r amlwg iddo gael ei eni yn Jamaica. Doedd Connagh ddim yn gwybod llawer am hanes ei deulu cyn mynd ar y daith, a daeth i adnabod mwy ar ei hunaniaeth yn y broses.
“Doedd mam-gu a tad-cu ar y ddwy ochr ddim yn siarad llawer am y peth, felly dw i’n gwybod lot mwy nawr am tua thair neu bedair cenhedlaeth yn ôl – sy’n eithaf cŵl. Mae’r [diddordeb mewn hanes] yn rhywbeth eithaf newydd, oherwydd yr oedran dw i yn nawr, ti ddim yn meddwl llawer am dy hanes,” meddai Connagh, sy’n 30 oed.
“Dw i’n meddwl bod e’n rhywbeth sy’n dod pan ti tipyn bach yn hynach ac yn edrych yn ôl. Nawr mae gen i fwy o ddiddordeb mewn dysgu sut oedd bywyd yn y cyfnod yna. Roedd diddordeb mawr gen i i ffeindio mas mwy am hanes y teulu. Yn tyfu lan, ti’n clywed straeon gan dy rieni a mam-gu a tad-cu, ond family myths…
“Roedd yna gwpwl o revelations o ran dysgu bod rhai o’r straeon ddim yn wir, a chael y cyfle i gwrdd â theulu doedden ni ddim hyd yn oed yn gwybod oedd yn bodoli. Roedd e’n brofiad diddorol a lot o hwyl, ac roeddwn i’n lwcus iawn i allu rhannu hwnna gyda fy nhad. Roedd e’n amazing i gael y cyfle i brofi [Jamaica] gyda’n gilydd am y tro cyntaf, y tywydd, y gerddoriaeth, y bwyd, y bobol. Dw i eisiau mynd yn ôl! Roedd edrych o gwmpas a gweld lot o bobol sy’n edrych yn debyg i Tad-cu yn deimlad neis.”
Ag ystyried y themâu dan sylw, does dim rhyfedd bod y siwrne ddim yn fêl i gyd.
“Byswn i’n dweud bod straeon ancestors fi wedi aros efo fi, ar y ddwy ochr. Roedden nhw’n byw bywydau caled iawn, dw i’n gwerthfawrogi beth oedden nhw wedi mynd trwyddo i greu’r bywydau wnaethon nhw greu. Mae wedi rhoi mwy o deimlad i fi fel fy mod i’n gwybod fy hunaniaeth mwy. Dw i’n gallu dweud: ‘Dyma ble mae’r cefndir yn dod, dyma’r pentref, dyma ein straeon’. Dw i’n lwcus iawn, does dim lot o bobol yn cael y cyfle i wybod hynna.”
Hapusrwydd, dagrau a dicter
Wedi’i eni yn y dociau yng Nghaerdydd, symudodd Wayne oddi yno blentyn ifanc, ac mae cwestiynau am ei hunaniaeth wedi bod yn ei bigo erioed.
“Yn y dociau, roedd y rhan fwyaf o bobol yn bobol fel fi, gyda chroen du. Roedd y gymuned yn amlddiwylliannol hefyd. Gadewais y dociau yn bedair oed a mynd i fyw yn Nhredelerch, ble’r oedd y rhan fwyaf o bobol yn wyn. Doedd dim llawer o gysylltiad gyda phobol o’r Caribî na’r gymuned lle cefais fy ngeni yn y dociau. Pan es i i Jamaica, teimlais i’n gyfforddus iawn,” meddai Wayne.
“Drwy gydol fy mywyd roeddwn i wastad yn clywed am hen storïau fy nhad a sut oedd pethau pan oedd fy nhad yn byw yn Jamaica. Nid yn unig hynna, ond roedd e’n siarad llawer am genhedlaeth Windrush. Roedd fy nhad wedi cyrraedd cyn y genhedlaeth honno â dweud y gwir. Roedd diddordeb mawr gyda fi i gael profiad o sut oedd bywyd fy nhad pan oedd o’n ifanc.
“Mae’n un peth i glywed amdano, ond mae’n hollol wahanol pan roedden ni yna yn Jamaica. Roeddwn i’n gwerthfawrogi sut mor galed oedd y bywyd, ond pan welais i Jamaica gwelais i lawer iawn o dlodi, ac mae hwn wedi cael effaith fawr arna i hefyd.”
Roedd yna grio, hapusrwydd a dicter yn rhan o’r daith, meddai Wayne, yn enwedig wrth ymweld â Jamaica ac olrhain ei linach yn ôl i’r union berthnasau a gafodd eu gorfodi i adael Affrica tua diwedd cyfnod y fasnach gaethwasiaeth trawsiwerydd.
“Es i i bentref bach rywle yn Jamaica, a chefais ganiatâd i siarad gyda’r trigolion yn y pentref. Roedd yn fythgofiadwy, penderfynais i siarad â dyn stereotypical Jamaican, gyda locks a phethau felly, ac edrychais i’w lygaid ac roedd e fel petai cysylltiad dwfn iawn. Roeddwn i’n dechrau crio, a dywedais i wrtho fe: ‘Er fy mod i erioed wedi bod yn Jamaica o’r blaen, dw i’n teimlo mwy cartrefol’. Ac mae e wedi dweud wrtha i: ‘Paid crio, paid crio, ti adref o’r diwedd’. Roeddwn i’n crio drwy hapusrwydd, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn.
“Profiad bythgofiadwy arall, bron â dechrau ffilmio yn Jamaica, ac un dydd roedd fi a Connagh yn eistedd ar y traeth – roeddech chi’n teimlo’r haul, sŵn y môr, y gwynt, natur yn gyffredinol – trois i ato fe a dweud: ‘Dw i’n caru ti’n fawr iawn, gobeithio dw i wedi bod yn dad digon da i ti ac wedi dysgu llawer i ti’. Fe wnaeth e edrych arna i, a fe’n dechrau crio hefyd, a dweud: ‘Ti wedi bod yn dad arbennig o dda, allwn i ddim gofyn am dad gwell’. Roedd hwn yn emosiynol iawn, ond yn dda ar yr un amser.
“[A meddwl mai] dyna sut oedden nhw’n arfer trin pobol, fel gwartheg. Roeddwn i’n grac iawn i ddarllen y straeon, roedd e’n galed i’w glywed e ac roedd e’n galed i’w dderbyn mai dyna sut oedd pethau canrifoedd yn ôl.”
- Bydd Teulu, Dad a Fi (Cwmni Da) yn dechrau ar S4C nos Fawrth nesaf, 7 Mawrth