Ar ôl treulio bron i ddegawd yn teimlo’n ddigon caeth yn gweithio tu ôl i ddesg, penderfynodd un darpar saer coed mai digon oedd digon.
Tua saith mlynedd yn ôl, diffoddodd Geraint Edwards, sy’n dod yn wreiddiol o Ddolgellau, y cyfrifiadur a dychwelyd i’r coleg i astudio gwaith coed.
Bellach yn rhedeg ei fusnes ei hun, Pedair Cainc, o’i gartref yn Ffair-fach ar gyrion Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, ac mae enw’r cwmni’n gyfeiriad at drywydd bywyd blaenorol Geraint.
“Fe wnes i astudio gradd yn y Gymraeg a mynd i Brifysgol Aberystwyth, ryw fath o bwyntio i’r cyfeiriad hwnnw [mae’r enw Pedair Cainc] – fy mod i wedi gwneud gradd yn y Gymraeg i fod yn saer coed!” meddai Geraint, sy’n byw gyda’i wraig, Carys, a’u merched, Swyn Haf sy’n bump oed a Leusa Aran sy’n ddwy oed.
Bu’n gweithio mewn llond llaw o swyddfeydd cyn troi at greu dodrefn, gan gynnwys am gyfnod yng Nghanolfan Tŷ Newydd yn Llanystumdwy a Swyddfa Plaid Cymru yn Aberystwyth, ac mae’n parhau i ymddiddori mewn llenyddiaeth.
“Dw i wrth fy modd yn darllen, a darllen barddoniaeth. Mae rhywbeth fel yna’n rhan annatod o fywyd rywun. Mae yna un gyfrol fydda i wastad yn mwynhau troi’n ôl ati, sef Sonedau T H [Parry-Williams]. Cefais i gopi ohoni gan hen ewythr i fi yn ôl yn tua 2003 ac mae hi wastad wedi bod wrth ymyl, dim ots lle dw i wedi mynd. Dw i wastad yn troi at honna pan dw i awydd ryw bum munud bach efo paned yn darllen.”
Ond gwaith coed ydy’r diddordeb mawr, ac yn un fu’n cyniwair ers ei blentyndod.
“Un o’r pethau oeddwn i’n eu mwynhau pan oeddwn i’n fach oedd mynd lawr i’r sied yng ngwaelod gardd nain a taid, a sefyll wrth ymyl taid yn gwylio fo’n potsian efo ryw fanion,” eglura Geraint.
“Pan oeddwn i yn yr ysgol, gwaith coed oedd y peth oeddwn i’n mwynhau fwyaf – fwy nag unrhyw waith fel ryw wyddoniaeth neu fathemateg. Fe wnes i ddilyn ryw lwybr oedd yn cael ei argymell imi gan y swyddogion gyrfaoedd, ac am flynyddoedd wedyn roeddwn i’n dilyn ryw yrfa academia a gweithio mewn gwahanol swyddfeydd, ond erioed yn setlo yn unlle yn hir iawn. Roeddwn i’n cael trafferth go-iawn eistedd o flaen desg a chyfrifiadur, roeddwn i’n teimlo reit anghysurus yn y peth. Teimlo’n gaeth yna.”
Y wefr o weld dodrefnyn yn datblygu allan o ddarnau o bren sy’n denu Geraint at y grefft, un a berffeithiodd yng ngholeg chweched dosbarth Caerdydd a’r Fro tua 2016.
“Ti’n dechrau efo rhywbeth gwbl amrwd, cwbl elfennol sef slabyn mawr o bren ac o’i weithio, o’i fesur, wedyn ei dorri, wedyn ei siapio a’i naddu, wedyn ei lyfnhau, yn raddol mae yna ddodrefnyn yn datblygu. Dw i wrth fy modd yn gweld y datblygiad yna o flaen fy llygaid i, ac mae hwnnw’n ddatblygiad sy’n digwydd mewn mater o ddyddiau. Mae o’n rhoi cryn wefr i fi, pan ti’n edrych ar ddarn o bren ac yn meddwl am y posibiliadau sy’n perthyn iddo ac wedyn gweld hwnnw’n dod i rywbeth byw.”
Mae Geraint yn cynnig creu amrywiaeth o ddodrefn i gwsmeriaid, gan gynnwys cypyrddau, cabinets, silffoedd llyfrau a wardrobs, ac yn defnyddio amryw fathau o bren gwahanol, yn ogystal â derw Cymreig ar gyfer darnau arbennig. Geraint sy’n gyfrifol am greu silffoedd yng nghanolfan groeso’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, yn Nhrawsfynydd hefyd, a’r rheiny wedi’u gwneud mewn steil hen ddresel Gymreig.
“Pan mae rhywun yn chwilio am ryw ddarn mwy arbennig ar gyfer bwrdd coffi neu gadair i roi fel anrheg, wedyn fydda i’n defnyddio derw o Gymru. Dw i’n gwneud dipyn go-lew o ddodrefn felly ar gomisiwn – ryw goffor [chest], meinciau, byrddau a ryw bethau felly. Mae’r derw dw i’n brynu yn syth o’r felin goed, mae yna ddwy neu dair melin goed leol dw i’n eu defnyddio.
“Mae tua 90% o’r derw dw i’n ei ddefnyddio, fyswn i’n amcangyfrif, o Gymru neu siroedd y Gororau, tuag ochrau Henffordd. Mae o’n goed o fewn ryw 60 milltir ar y pellaf i safle’r gweithdy. Dw i’n prynu’n uniongyrchol gan y felin goed, a ti’n cael dewis y darnau gorau. “Ond ti’n magu perthynas efo’r felin goed hefyd, ti’n cael hanes bob darn o bren ti’n ei brynu, wedyn mae hynny wastad yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i mi – bod yna hanes i’r dodrefnyn ymhell cyn i mi ddechrau ei lifio a’i siapio fo.”
Un o blant Meirionnydd ydy Geraint o hyd, a bro ei febyd wedi glynu’n dynn ato. Yn rhannol oherwydd bod y llysenw a gafodd yn blentyn ysgol wedi sticio efo fo – ‘Ger Taid’.
“Daeth yr enw, i mi gofio, pan oeddwn i yn Ysgol y Gader achos oedd pawb yn meddwl, oherwydd fy natur, fy mod i’n greadur oedd ychydig bach yn hen ffasiwn,” eglura’r saer sy’n 35 oed.
“Doedd gen i ddim diddordeb mewn cyfrifiaduron a rhyw bethau felly, a does gen i dal ddim affliw o ddiddordeb yn y math yna o beth – sy’n gwneud y ffaith i mi weithio mewn swyddfa am ryw naw mlynedd yn benbleth llwyr wedyn. Mae o’n ryw enw sydd wastad wedi sticio efo fi wedyn, pan es i i coleg fe wnaeth ‘Taid’ ryw lusgo yno efo fi, felly ‘Ger Taid’ dw i wedi bod ers oeddwn i tua tair ar ddeg oed.
Mae yn hoffi dychwelyd i’r gogledd i gerdded.
“Pan ga i gyfle fydda i’n hoff iawn o fynd i grwydro ar y mynyddoedd, yn enwedig ar lethrau Cadair Idris a physgota plu ar Lyn Cregennen hefyd – does yna ddim byd gwell i’w wneud pan mae rhywun eisiau diwrnod bach o lonyddwch.”
Ac yntau wedi’i fagu yn nhref y Sesiwn Fawr, mae Geraint wrth ei fodd â cherddoriaeth werin hefyd, yn enwedig Bob Delyn a’r Ebillion, Cowbois Rhos Botwnnog a Lleuwen.
“Oes yna hiraeth am Feirion? Ar wal y gweithdy, yn uchel uwch y fainc, mae gen i faner fawr Meirionnydd a baner Glyndŵr yn edrych lawr arna i. I le bynnag ai, fydd lliwiau Meirionnydd yn reit agos.”