“Dw i ddim yn ganwr a dw i ddim yn gallu chwarae gitâr yn grêt. Ond dw i’n teimlo, os ydw i’n dweud stori, bod yna ychydig o onestrwydd yn beth dw i’n gwneud…”

Ar Ddydd Gŵyl Dewi fe gawson ni anrheg fach gan actor a chyflwynydd sydd bellach wedi troi ei law at ganu.

Rhwng Uffern a Darowen yw ail albwm y diddanwr o fryniau Sir Drefaldwyn, Aeron Pughe, sydd hefyd yn weldio pan nad ydy o ar lwyfan neu o flaen camera teledu.