‘Ma’ nhw’n dweud taw ni yw gwlad y gân,’ meddai Euros wrth setlo’n ddwfn i freichiau’r soffa. ‘Ond pa gân, dyna’r cwestiwn?’

Fydde fe ddim yn cael get-awê’n dweud unrhyw beth mor gawslyd fel arfer. Rhaid i chi deall ’ny. So ni’r teip i siarad fel penawdau bachog, crinji. Yn enwedig pan ni’n gwatsho teli. Yn enwedig Euros. Bydde fe byth yn galler bod ar Gogglebox – mae e’n casáu popeth, ac yn lleisio hynny gyda rhegfeydd nag y’ch chi byth yn eu clywed ar S4C.