Mae Rishi Sunak yn wynebu sawl her gymhleth – heb sôn am orfod rhoi trefn ar ei blaid annisgybledig – gan gynnwys ei ragflaenydd plentynaidd, Boris Johnson, sydd yn dal i fod yn ddig iawn am rôl Sunak adeg ei ddisodli fel Prif Weinidog.

Ar yr un pryd, mae amser yn brin cyn yr etholiad nesaf. Mae’n amlwg, felly, ei fod am fynd i’r afael yn fuan â’r materion mwyaf dyrys sy’n ei wynebu, er mwyn ceisio eu datrys cyn yr etholiad hwnnw.