Mi wnes i fwynhau gwylio Brennan Johnson yn sgorio dwy gôl i Nottingham Forest yn erbyn Everton tros y penwythnos. Mae Johnson ar dop ei gêm ar y funud ac yn rhoi gobaith go-iawn i Gymru ei fod o’n barod i lenwi o leiaf un o esgidiau Gareth Bale. Wedi ei eni yn Nottingham, roedd Johnson yn chwarae i dîm dan 17 Lloegr, cyn dewis i chwarae ei bêl-droed rhyngwladol gyda Chymru. Byse Brennan Price Johnson wedi gallu chwarae i Jamaica hefyd , ond yn lwcus i ni, dewisodd o Gymru oherwydd gwreiddiau ei