Fydd raid i chi faddau i fi am anfon fy ngholofn ychydig yn hwyr yr wythnos hon – dw i wedi bod yn ei chanol hi, yn cynnal ymchwiliad archeolegol cymhleth. ‘Achub y blaen ar y spring clean’ fyddai rhai yn ei alw, ond dydi’r bobl hynny erioed wedi ceisio gorchwyl fel hwn: gwneud sens o eiddo rhywun sy’n gweithio efo casgliadau hanesyddol, ac sy’n trin ei manion personol fel petaen nhw, hefyd, o ryw ddiddordeb i ymchwilwyr y dyfodol. Ffordd gymhleth ydi hynny, am wn i, o ddweud fy mod i’n