Mi’r ydw i wedi bod mewn ambell barti ôl-gynhadledd wleidyddol dros y blynyddoedd, yn gyffredinol yn bod yn niwsans ac ypsetio pawb, ond dw i ddim yn meddwl y buaswn i’n mwynhau’r gynhadledd ei hun. Byddai rhai diweddar Plaid Cymru’n llai byth o hwyl dw i’n tybio, gyda’r un wythnos diwethaf yn digwydd heb ffanffer, yn ddistaw ac yn gymharol wag.