Un o’r cliches modern ofnadwy yna sy’n codi gwrychyn a suddo’r galon ydy: ‘tydi aros yn llonydd ddim yn opsiwn, rhaid i ni symud ymlaen’.

Mae honna yn cael ei throtian allan mewn cyfarfodydd gan bobol sydd heb ddim byd call i’w ddweud, ac mae hi yn ymylu ar fod mor chwerthinllyd â’r sylw salw yna am gynnal blue skies thinking mewn thought jacuzzi.