Fe ddaeth criw ynghyd y Sadwrn diwethaf i lansio Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, mewn gŵyl gafodd ei chynnal drwy’r dydd yn nhafarn y Lion yn Nhreorci.

Roedd yna gomedi a gweithgareddau i’r plantos, ac yn y llun mae Osian, canwr y band Candelas, yn rocio’r bar ar ran y Brifwyl.