Fe fydd pob person ifanc sy’n gadael gofal yn 18 oed yn cael cynnig £1,600 y mis dan gynllun peilot Incwm Sylfaenol.

Bydd tua 500 o bobol yn gymwys ar gyfer y cynllun a fydd yn costio hyd at £20m dros gyfnod o dair blynedd.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y cynllun yn wastraff, tra bod Plaid Cymru am weld y cynllun yn cael ei ehangu.

Fydd y £1,600 ddim yn cael ei drethu ac fe fydd yn cael ei gyfrif fel incwm mae rhywun yn ei dderbyn gan y Llywodraeth, ac o ganlyniad yn effeithio ar gymhwysedd rhywun i dderbyn budd-daliadau.

Fydd e ddim yn dod i ben os bydd person yn derbyn swydd.

Mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, yn dweud bod y Llywodraeth yn “ymwybodol ein bod mewn argyfwng costau byw ac yn benderfynol o edrych am y ffyrdd gorau i gefnogi unigolion yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi”.

Fe ychwanegodd y bydd y cynllun yn rhoi’r “holl gymorth sydd ei angen” i bobol o gefndiroedd difreintiedig i “ddilyn llwybr eu hunain”.

‘Gwastraff arian’

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cynllun yn cael ei ystyried “yn wastraff arian cyhoeddus”.

Mae Joel James, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Bartneriaeth Gymdeithasol, fod yna “dreialon dirifedi o bob cwr o’r byd wedi canfod nad oes gan Incwm Sylfaenol y canlyniadau disgwyliedig gan nad yw’n cymell gwaith ac yn profi dro ar ôl tro i fod yn wastraff arian cyhoeddus”.

“Pe bai’n cael ei gyflwyno’n gyffredinol gyda phob oedolyn yng Nghymru yn derbyn £1,600 y mis, byddai’n costio bron i £50bn y flwyddyn, ac ar yr un pryd yn gwobrwyo’r cyfoethocaf mewn cymdeithas yn hytrach na helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf,” meddai.

“Mae ein Gwasanaeth Iechyd ar flaen y gad ac mae ein heconomi mewn cyflwr bregus, ond yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion hynny’n uniongyrchol, mae gan Lafur fwy o ddiddordeb mewn Incwm Sylfaenol, a fydd yn costio ffortiwn i’r wlad.”

Peilot tair blynedd

Bydd y peilot yn para tair blynedd ac yn cael ei gynnig i bob person sy’n gadael gofal yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Byddan nhw’n derbyn taliadau am 24 mis sy’n gyfanswm o £19,000 cyn treth flynyddol gyda’r taliad cyntaf mis ar ôl iddyn nhw droi’n 18 oed.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi neilltuo £5m ar gyfer blwyddyn gynta’r peilot gyda hynny’n cynyddu i £10m erbyn yr ail flwyddyn, ac yn gostwng i £5m erbyn y drydedd flwyddyn.

Serch hynny, mae hyn oll yn ddibynnol ar faint o bobol sy’n penderfynu cymryd rhan yn y cynllun.

‘Angen ehangu’r cynllun’

Yn ôl Plaid Cymru, mae’r peilot yn “gam yn y cyfeiriad cywir” gan Lywodraeth Cymru ond dylai’r cynllun fynd ymhellach.

 

“Balch bod Cymru’n arwain y ffordd. Mae’n bwysig nawr ein bod yn sicrhau bod y peilot yn llwyddiannus a’i fod yn bodloni’r uchelgais o fynd i’r afael â thlodi yn ogystal â gwella iechyd a lles ariannol,” meddai Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, ar Twitter.

“Mae’r peilot hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir i Lywodraeth Cymru, ond mae’n bwysig iawn bod ganddo’r strwythur o’i gwmpas i’w alluogi i gyflawni’r uchelgais o fynd i’r afael â thlodi a diweithdra, yn ogystal â gwella iechyd a lles ariannol,” meddai.

“Er mwyn cefnogi’r camau hyn yn llawn, rhaid i Lywodraeth Cymru alw am fwy o bwerau dros les a threth, a pheidio â gadael i’w hamharodrwydd blaenorol leihau’r uchelgais newydd hon.

“Mae angen y pwerau ychwanegol hyn ar frys, nid yn unig i redeg cynllun peilot cynhwysfawr, ond i fynd i’r afael â thlodi cynyddol yn ein cymunedau ac i ddechrau cynllunio system Treth a Budd-daliadau Cymru yn y dyfodol, gydag Incwm Sylfaenol Cyffredinol wrth ei wraidd.”

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd am weld cynllun peilot ehangach.

Fe ychwanegodd Jane Dodds, arweinydd y blaid y byddai’n hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut maen nhw’n bwriadu hyrwyddo’r defnydd o’r cynllun.

“Gwyddom fod y rhai sy’n gadael gofal yn anffodus yn cael nifer isel iawn o gynlluniau cymorth presennol y Llywodraeth, felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod y cyfle hwn yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol i’r rhai sy’n gymwys,” meddai.

Mae’n debygol y bydd y cynllun yn dechrau yn yr haf ond does dim ddyddiad penodol wedi ei bennu.