Byddai un o gantorion mwyaf adnabyddus Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed heddiw (dydd Mercher, Chwefror 16).

Yn wreiddiol o Gilfynydd ger Pontypridd, roedd Syr Geraint Evans yn un o berfformwyr opera gorau’r byd yn ei gyfnod, ac roedd wedi perfformio ar rai o’r llwyfannau gorau a chwarae cymeriadau eiconig.

Roedd cerddoriaeth yn rhan o’i fywyd yn gynnar iawn, ac er iddo ddechrau gyda’r Awyrlu Brenhinol, ar y llwyfan y byddai’n treulio rhan fwya’i oes.

Yn gynnar yn ei yrfa, cafodd y cyfle i chwarae rhan Figaro o’r opera enwog gan Mozart, cyn mynd yn ei flaen i serennu fel cymeriadau Falstaff, Don Pasquale, Beckmesser, Leporello, Dulcamara, a llawer iawn mwy.

Un o’i uchafbwyntiau oedd dychwelyd i rôl Figaro, ond y tro yma ar lwyfan La Scala yn Milan, gan ddod y person cyntaf o Brydain i berfformio yna mewn 35 mlynedd.

Fe aeth yn ei flaen i deithio o gwmpas y byd, cyn iddo ymddeol yn llawn ym 1984, a threulio ei flynyddoedd olaf yn Aberaeron.

Bu farw’n sydyn yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ym 1992.

‘Fi’n edmygydd mawr ohono fe’

Mae’r canwr opera Aled Hall wedi bod yn siarad â golwg360 am etifeddiaeth Syr Geraint Evans, gan ddweud bod y canwr wedi cael dylanwad enfawr arno wrth iddo ddilyn yn ei ôl troed.

“Oedd e’n stage animal,” meddai.

“Mae hynny’n rywbeth fi’n gallu uniaethu ag e achos fi jyst yn dwlu bod ar y llwyfan.

“Oedd jyst yr olwg yna gyda fe – fel film star. Oedd e jyst yn edrych y part – ei fynegiant e, ei lygaid e, a’r gwallt tonnog yna.

“Fi’n edmygydd mawr ohono fe, ac mae wedi bod yn ddylanwad mawr arna i. Wy’n aml yn trio ei ddilyn e ar y llwyfan yna.”

Syr Geraint Evans yn perfformio

‘Roedd e’n canu corn arnon ni bob tro!’

Fel brodor o orllewin Cymru, un o atgofion cyntaf Aled Hall o Syr Geraint Evans oedd ei weld yn gyrru yn yr ardal mewn car crand.

“O ran atgofion plentyn, wy’n cofio gweld y gwyneb expressive a’r llais anhygoel yma ar y teledu,” meddai.

“Ond atgof arall sydd gen i oedd ei weld e’n gyrru Rolls Royce drwy Pencader ar ei ffordd i’w dŷ yn Aberaeron.

“Doedden ni ddim yn gweld lot o Rolls Royces ym Mhencader amser oedden i’n ifanc.

“Wrth gwrs, pan ddaethon ni i wybod pwy oedd e, roedd y bois a fi yn rhoi bow iddo fe pan oedd e’n mynd heibio – fel tasen ni yn yr opera – ac roedd e’n canu corn arnon ni bob tro!”

‘Wastad yn cael sgwrs â phawb’

Wrth i Aled Hall ddechrau cystadlu yn rhai o gystadlaethau mwya’r Eisteddfod Genedlaethol, roedd yn dechrau troi yn yr un cylchoedd â Syr Geraint Evans.

“Yn ddiweddarach, fe wnes i gwrdd â fe, ac yn yr Eisteddfod fwy neu lai fe ddes i i’w adnabod e orau,” meddai wedyn.

“Roedd e’n feirniad blynyddol ar Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts, a dw i’n cofio’r flwyddyn gyntaf wnes i gystadlu, roedd e wastad yn cael sgwrs â phawb oedd yn cystadlu.

“Dw i’n cofio cwrdd ag e – oedd e wedi dwlu ar fy mherfformiad i, a dywedodd e wrtha i: ‘Ti’n mynd i fynd yn bell gyda’r llygaid drwg yna!’

“Oedd hynny’n dod gan y gŵr oedd â’r llygaid gorau yn y byd opera mewn ffordd, felly roedd hwnna’n dipyn o beth.

“Roedd e’n foi neis, a’n rhoi lot o gyngor. Dywedodd e wrtha i ar ôl y tro cyntaf: ‘Ti bach yn ifanc nawr, ond dere’n ôl a chadwa mewn cysylltiad achos wy moyn gweld sut wyt ti’n datblygu fel canwr’.

“Ond wedyn pan enillais i’r gystadleuaeth, roedd e wedi ymadael â ni, felly gafodd e ddim gweld hynny yn anffodus.”

Etifeddiaeth

Mae Syr Geraint Evans yn parhau i fod yn un o’r enwau mwyaf eiconig yn y byd opera hyd heddiw, ar ôl iddo berfformio ar rai o lwyfannau mwyaf byd, gan gynnwys La Scala, y Staatsoper, a’r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden.

“Mae enw mor dda iddo yn Covent Garden,” meddai Aled Hall.

“Wy’n ddigon ffodus i fod yng nghanol perfformiadau Tosca ar hyn o bryd yn y fan hynny.

“Heb ddweud gair o gelwydd – wy yn ystafell newid rhif 37, a thu fas drws yr ystafell mae llun ohono fe wedi fframio fel Falstaff.

“Fi’n rhoi pip arno fe bob tro fi’n cerdded i’r llwyfan, a theimlo’i lygaid e’n dilyn fi.

“Un o’r goreuon ry’n ni wedi ei gynhyrchu yng Nghymru – fel oedd y New York Times yn dweud: ‘The best Falstaff in the world.”