Does dim gwell moddion na chomedi ar ôl dwy flynedd mewn pandemig, yn ôl y digrifwr Gary Slaymaker.
Bydd y daith stand-yp Gymraeg gyntaf i gael ei chynnal ers pum mlynedd, Glatsh!, yn dechrau yn Abertawe nos Wener (Chwefror 18).
Mae pobol eisiau ychydig bach o ysgafnder yn eu bywydau ar y funud, meddai Gary Slaymaker, sy’n un o drefnwyr a chyfranwyr y daith.
Er hynny, bydd hi’n rhyfedd sefyll o flaen llond ystafell o bobol mewn mygydau heb allu gweld a oes gwên ar eu hwynebau, meddai.
“Ar un llaw, bydd hi’n hyfryd cael bod allan o flaen cynulleidfa unwaith eto,” meddai wrth golwg360.
“Ar y llaw arall, dw i’n nerfus tu hwnt achos dw i heb fod o flaen meicroffon ers dwy flynedd!
“Cyn y pandemig, dim ond gig fan hyn a fan draw roeddwn i’n eu gwneud yn y misoedd yn arwain lan at y pandemig.
“Mae’n mynd i fod yn brofiad eithaf rhyfedd, efallai. Dw i’n hen gyfarwydd â siarad ar y radio bob prynhawn dydd Gwener, ond mae hwnna’n wahanol beth, dwyt ti ddim yn gweld neb.
“Efallai bydd e bach yn weird sefyll o flaen ystafell o bobol sy’n gwisgo mygydau. Ti’n gallu clywed nhw’n chwerthin, gobeithio, ond fyddi di ddim yn gallu gweld gwên felly mae’n ei wneud e’n anoddach wedyn i farnu pa jôc weithiodd neu beidio.”
Cynnig “ychydig o ysgafnder”
Er y bydd ambell gyfeiriad gwleidyddol, a chyfeiriad sydyn tuag at y pandemig yn set Gary Slaymaker, trafod ei gariad tuag at ffilmiau fydd e yn bennaf.
“Mae e’n rywbeth dydw i erioed wedi’i drafod ar lwyfan stand-yp o’r blaen,” meddai.
“Alla i ddim meddwl am well moddion [na chomedi].
“Yn enwedig efo dwy flynedd digon anodd efo’r pandemig yn barod, ac wedyn ti’n ychwanegu y llywodraeth waethaf yn hanes y byd… a dw i’n credu bod pobol eisiau ychydig bach o ysgafnder yn eu bywydau.”
Rhwng mis Chwefror ac Ebrill, fe fydd criw o gomedïwyr yn teithio o gwmpas Cymru gyda Glatsh!, sydd wedi’i threfnu gan gwmni cynhyrchu Slaycorp – a Steffan Evans, Eleri Morgan, Beth Jones, a Gary Slaymaker fydd asgwrn cefn y daith.
Bydd digrifwyr eraill yn ymuno â’r criw mewn gwahanol leoliadau, a nos Wener bydd Mel Owen, Steffan Alun a Daf Rhys yn ymuno â Gary Slaymaker a Steffan Evans yn Nhŷ Tawe.
Creu comedi Cymraeg
Mae Mel Owen, sy’n dod o Gapel Seion ger Aberystwyth, yn wyneb newydd mewn comedi, a’i gig nos Wener fydd yr ail dro iddi wneud comedi drwy’r Gymraeg.
“Mae fe’n neis cael gwneud e drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Mel Owen wrth golwg360.
“Dw i’n gwneud e ar Noson Lawen ym mis Ebrill, a dw i rili angen ymarfer.”
Bydd set Mel Owen yn y gig yn trafod ei phrofiadau fel rhywun amlhil yng nghefn gwlad Cymru o gymharu â’i phrofiadau nawr yn byw yng Nghaerdydd, yn ogystal â’i pherthynas â’i theulu.
“Mae fe’n dibynnu ar y gynulleidfa, os dw i’n troi lan a dw i’n gweld bod lot ohonyn nhw’n oedran fi, fe wna i siarad mwy am y pethau am fod yn fy ugeiniau, a gobeithio eu bod nhw’n perthnasu â hynna.
“Dw i’n sôn am bywyd dateio fi lot… mae’r dynion yn fy mywyd i’n cael amser reit galed!
“Ond os dw i’n troi lan a gweld eu bod nhw ychydig bach yn hŷn, fe wna i sticio i stwff maen nhw’n gallu perthnasu iddo fel gwahanol brofiadau o fod yn Gymraeg.”
Dim ond ers dechrau gwneud comedi ei hun y mae Mel Owen wedi sylwi ar bwysigrwydd comedi i bobol, ac o deithio o amgylch y Deyrnas Unedig yn gwneud sioeau, mae hi’n synnu faint o bobol sydd yn mynd i wylio nosweithiau comedi lleol.
“Mae e jyst yn dod â bach o light relief i bobol, a dw i’n credu bod hwnna’n bwysig,” meddai.
“Maen nhw’n gallu cymryd eu hunain allan o’r byd difrifol iawn sydd gennym ni ar hyn o bryd.”