Mae’r ffaith bod yno gynifer o artistiaid o Gymru’n perfformio yng Ngŵyl Radio 6 Music yn beth “gwych”, yn ôl y DJ Huw Stephens.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng Ebrill 1-3, ac yn cynnwys perfformiadau byw, setiau DJ a sgyrsiau.

Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar draws nifer o leoliadau yn y brifddinas, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Y Neuadd Fawr ac Y Plas yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Tramshed.

Mae’r perfformwyr yn cynnwys Little Simz, Deyah, Georgia Ruth, Father John Misty ac aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, IDLES, Bloc Party, Gwenno, Johnny Marr, Carwyn Ellis & Rio 18, Gruff Rhys a’r Pixies.

Bydd digwyddiadau yn ystod y dydd yn ogystal â gyda’r nos, gyda digwyddiadau Dydd Gŵyl Radio 6 yn cael eu cynnal yn Tramshed a bydd digwyddiadau’r Nos yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, y Neuadd Fawr ac Y Plas.

Bydd tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar gael o 10yb ddydd Iau (Chwefror 17) ar y wefan bbc.co.uk/6musicfestival.

‘Adlewyrchu’r hyn mae 6 Music amdano’

“Mae e’n amazing, mae’r lein-yp yn anhygoel,” meddai Huw Stephens wrth golwg360.

“Mae yno bob math o enwau diddorol ar y rhestr ac mae e’n line up sy’n adlewyrchu’r hyn mae 6 Music i gyd amdano, sef enwau mawr o’r gorffennol fel y Pixies ac enwau newydd, pobol sydd wedi torri drwodd fel Little Simz sydd yn headline-io Neuadd Dewi Sant.

“Ac mae’r ffaith bod yno gymaint o artistiaid o Gymru ar y lein-yp fel Gruff Rhys, Deyah, Carwyn Ellis, Gwenno yn wych hefyd.

“Ac mae 6 Music, ’swn i’n hoffi dweud, yn briliant am chwarae miwsig iaith Gymraeg hefyd, yn hollol naturiol yn aml ar raglen Gideon Coe, Mark Riley ac wrth gwrs Cerys Matthews.

“Felly mae’n wych bod e’n dod i Gaerdydd.

“Bydd 6 Music yn darlledu’n fyw o Gaerdydd dros y penwythnos a gan bod y lein-yp mor enfawr, bydd yno lot o bobol yn gwrando ar y radio yn ogystal â mynd i’r ŵyl.

“Mae pawb draw yn 6 Music yn rili excited, ddaru ni gyhoeddi’r line up ddoe ac mae’r DJs i gyd wrth eu boddau achos maen nhw’n cael dod i weld bandiau maen nhw wedi bod yn chwarae ar y radio a gweld gwrandawyr 6 Music yn yr adeilad, mewn ystafell gyda’i gilydd.”

‘Fringe Gig yn rhan bwysig o’r ŵyl’

Bydd nifer fawr o fandiau Cymraeg yn cymryd rhan yn y Festival Fringe, ac mae Huw Stephens yn edrych ymlaen at eu gweld nhw’n cael llwyfan.

“Mae’r Fringe Gig yn rhan bwysig iawn o’r holl beth cyn yr ŵyl,” meddai Huw Stephens wedyn.

“Mae yno gigs yn digwydd o amgylch Caerdydd lle bydd lot o fandiau yn chwarae, fel Breichiau Hir, Adwaith a Los Blancos er enghraifft felly mae lot yn digwydd!”

Gŵyl myfyrwyr Prifysgol De Cymru’n uno gyda 6 Music yng Nghaerdydd

Bydd digwyddiad Immersed! y myfyrwyr yn helpu i godi arian at bobol ifanc yn eu harddegau sydd â chanser