‘Llyn Llawenydd’ gan Papur Wal sydd wedi cipio gwobr y Gân Orau yng Ngwobrau’r Selar eleni.

Mae’r wobr ar gyfer y Record Hir Orau hefyd yn mynd i Papur Wal, a hynny am ‘Amser Mynd Adra’.

Morgan Elwy sydd wedi’i enwi’n Artist Newydd y flwyddyn, gyda Marged Gwenllian yn cipio teitl ‘Seren y Sîn’.

Enillydd Gwobr 2021, wedi’i noddi gan Heno, yw Merched yn Gwneud Miwsig.

Tecwyn Ifan yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig

Roedd Y Selar eisoes wedi cyhoeddi mai Tecwyn Ifan sydd wedi cipio’r Wobr Cyfraniad Arbennig eleni, a honno wedi’i noddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cafodd e wybod mewn sgwrs arbennig gydag Aled Hughes ar Radio Cymru fore heddiw (dydd Mercher, Chwefror 16).

Mae’n ymuno â rhestr ddethol o gerddorion sydd wedi ennill y wobr arbennig hon, gan gynnwys Pat a Dave Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones, Mark Roberts a Paul Jones (Y Cyrff/Catatonia/Y Ffyrc), Gruff Rhys a Gwenno.

Ffion Richardson, myfyrwraig celf o’r brifysgol sy’n hanu o’r un ardal â Tecwyn Ifan yn Sir Benfro, sydd wedi creu’r gwaith celf arbennig i’w roi i’r enillwyr eleni.

Ffurfiodd Tecwyn Ifan ei fand cyntaf, Perlau Taf, ddiwedd y 1960au, ac yntau’n dal yn yr ysgol yn Hendy Gwyn ar Dâf.

Ffurfiodd y band Ac Eraill ar ôl mynd i Brifysgol Bangor – yn y band hwnnw roedd Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards.

Ar ôl i’r band ddod i ben yn 1975, aeth Tecwyn Ifan yn artist unigol, gan ryddhau’r albwm Y Dref Wen yn 1977 a honno’n un o’i ddeg albwm ar label Sain hyd yn hyn.

Cafodd yr enillydd ei ddewis gan Y Selar.

“Does dim amheuaeth bod Tecwyn Ifan yn llawn haeddu’r wobr yma am ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros y blynyddoedd” meddai’r Uwch Olygydd Owain Schiavone.

“Rydyn ni bob amser yn dyfarnu’r wobr yma i gerddorion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol dros gyfnod hir o amser, ond sydd hefyd yn parhau i wneud hynny.

“Os edrychwch chi ar yr enillwyr blaenorol, rydyn ni wedi cyflwyno’r wobr iddynt yn fuan ar ôl iddynt ryddhau cynnyrch newydd. Mae hynny’n wir unwaith eto gyda Tecwyn sydd wedi rhyddhau albwm newydd, Santa Roja, fis Medi diwethaf.

“Mae Tecwyn yn un o’r bobl ddiymhongar yna sydd efallai heb gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu yn y gorffennol gan nad ydy o’n un sy’n tynnu gormod o sylw at ei hun.

“Mae o’n rywun sydd wedi bod yn uchel ar y rhestr i dderbyn y wobr yma ers sawl blwyddyn mewn gwirionedd, jyst ein bod ni’n disgwyl am yr amser iawn i wneud hynny. Gyda chynnyrch newydd allan ganddo yn 2021 roedd yn gyfle perffaith i ddathlu ei gyfraniad dros y degawdau.

“Llongyfarchiadau mawr i Tecwyn gan griw Y Selar, ac rydan ni’n edrych ymlaen at weld llawer mwy o gerddoriaeth ganddo dros y blynyddoedd i ddod.”