Mae cynghorydd tref o Griccieth wedi ennill gwobr am hyrwyddo’r celfyddydau yn y dref.
Cafodd y wobr Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd ei dyfarnu i Ffion Meleri Gwyn fel rhan o Wobrau Hearts for the Arts 2022 Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau.
Nod y gwobrau yw dathlu arwyr tawel mewn awdurdodau lleol sy’n sefyll dros y celfyddydau, a chafodd y wobr ei rhoi i Ffion Gwyn am ei gwaith wrth arwain ystod o brosiectau creadigol yng Nghriccieth.
Cyfrannodd y prosiectau at les cymuned y dref yn ystod y pandemig, ac mae Ffion Gwyn wedi dweud wrth golwg360 fod y prosiectau creadigol hyn wedi helpu i uno’r gymuned a chynyddu’r ymdeimlad o berthyn ymysg trigolion.
Maen nhw hefyd yn gyfle i rannu hanesion llafar gwlad yr ardal, a sicrhau bod twristiaid yn gadael y dref “yn ymfalchïo yn yr un pethau” â phobol leol, meddai.
Roedd ennill yn “sioc ryfeddaf”, meddai Ffion Gwyn, sy’n dysgu Celf a Dylunio a’r Fagloriaeth yng Ngholeg Meirion Dwyfor Pwllheli a Dolgellau.
‘Fel pelen eira’
Roedd myfyrwyr ynghlwm â’r prosiectau creadigol drwy elfen cyfranogiad cymunedol y Fagloriaeth, ac roedd o’n “rhywbeth naturiol i’w estyn allan, a chynnig prosiectau i’r gymuned” wedyn.
“Wrth gwrs, mae’r cyfnod clo wedi bod yn adeg mae pobol eisiau teimlo eu bod nhw’n perthyn i grŵp er eu bod nhw ddim gyda’i gilydd, a chael gôl i weithio tuag at,” meddai Ffion Gwyn.
“Wrth osod prosiectau, roedd o’n mynd â’r amser yna oedd yn segur ar eu dwylo nhw.”
Mae’r prosiectau yn cynnwys gosod meinciau cyfeillgarwch, creu Pont yr Enfys, sef creu enfys o gerrig wedi’u peintio, creu map dwyieithog artistig.
“Roedd o fel pelen eira, roedd gen ti’n bluen fach o syniad ac erbyn diwedd roedd o’n cynyddu mewn momentwm tan gaethon ni gannoedd o bobol yn cymryd rhan.
“Mae’r prosiectau dal ar y gweill, nawr ein bod ni’n gallu ailgyfarfod mae yna frwdfrydedd, mae yna asbri, mae pobol mor prowd.
“Dw i’n prowd iawn o beth sydd wedi cael ei gyflwyno mewn adeg pan oedd yna her i drio cadw pethau i fynd a chadw ysbryd pobol i fyw.”
Ymfalchïo yn y diwylliant lleol
Mae’r prosiectau creadigol wedi bod yn ffordd o ymfalchïo mewn diwylliant a threftadaeth leol, meddai Ffion Gwyn, sy’n dod yn wreiddiol o Benrhyncoch ger Aberystwyth.
“Be rydyn ni wedi’i wneud yn llwyddiannus, dw i’n meddwl, ydy dod â hanesion bro a llafar gwlad i grombil y gymdeithas, neu i galon y gymuned leol.”
Mae’r meinciau cyfeillgarwch yng Nghriccieth yn cynnwys cod QR ar eu cefnau, gyda dolen i Gasgliad y Werin lle maen nhw wedi casglu 60 stori am yr ardal leol, a’r nod yw casglu cant o straeon cyn yr haf.
“Trwy fod pobol yn cael y straeon yma a theimlo fel eu bod nhw’n perthyn, a chlywed hanesion… hyd yn oed os ti wedi symud i’r ardal, maen nhw gyda’r cyfle yna i ddod i ddeall yr elfen yna o dreftadaeth a diwylliant cyfoethog iawn sydd efo ni yma.
“Yr ymdeimlad yna o berthyn. Wrth estyn allan a chynnig cyfleoedd i bob un, os ydyn nhw eisiau cymryd rhan mae o’n ffordd i bobol deimlo eu bod nhw’n rhan o gymuned glos, hapus, a chyflawn.”
‘Cadw cydbwysedd’
Mae Criccieth yn dref dwristaidd, ac mae angen cadw cydbwysedd fel bod y gwaith yn apelio at dwristiaid yn ogystal â phobol leol.
“Mae’r gwaith rydyn ni wedi’i osod o gwmpas y dref wedi cael ei droi yn daith gelfyddydol, mae taith greadigol, taith hanes, ac maen nhw wedi cael eu hamlygu ar ffurf pamffled a map,” eglura Ffion Gwyn.
“Pan mae ymwelwyr yn dod rydyn ni eisiau iddyn nhw gael profiad cyfoethog a bythgofiadwy o’r ardal, sy’n fwy na dim ond mynd am dro lan y môr a mynd i gael hufen iâ.
“Rydyn ni eisiau iddyn nhw fynd oddi yma yn ymfalchïo yn yr un math o bethau ag rydyn ni’n ymfalchïo ynddyn nhw, o ran teimlo bod y lle yn gyfoethog iawn a bod gyda ni gymaint i’w roi.”
Mae Criccieth Creadigol wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Clodwiw Bywydau Creadigol 2021, ar y cyd â 30 o brosiectau eraill dros y Deyrnas Unedig.
Bydd enillwyr o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon / Iwerddon, a’r Alban yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Coventry ar Ddydd Gŵyl Dewi.