Mae’r wyth cân sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cân i Gymru 2022 wedi cael eu datgelu.

Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno’r gystadleuaeth yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Wener, Mawrth 4.

Dafydd Iwan, Elidyr Glyn, Lily Beau, a Betsan Haf Evans yw’r arbenigwyr sydd wedi dewis y caneuon eleni.

Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu am y siawns o ennill £5,000 a theitl Cân i Gymru eleni yw:

Rhyfedd o Fyd gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen, a’r geiriau gan Emlyn Gomer Roberts

Mae Elfed Morgan Morris, sy’n bennaeth yn Ysgol Llandygai, wedi cyfansoddi cân ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth o’r blaen, pan enillodd gyda’r gân Gofidiau yn 2009.

Cafodd Carys Owen lwyddiant yn 2002, pan ddaeth y gân Rhy Gry, a gyfansoddodd ar y cyd ag Emyr Rhys, yn ail. Elain Llwyd fydd yn perfformio’r gân.

Cana dy Gân gan Geth Tomos, a’r geiriau gan Geth Robyns

Mae Geth Tomos yn athro cerdd yng Nghanolfan Addysg y Bont, Llangefni, a Geth Robyns yn athro yn Ysgol Llanfawr yng Nghaergybi.

Cân roc ydy Cana dy Gân, sy’n annog pobol i sefyll dros yr hun maen nhw’n ei gredu. Rhys Owain Edwards, canwr y band Fleur de Lys, fydd yn perfformio.

Paid Newid dy Liw gan Mali Hâf a Trystan Hughes

Bydd Mali Hâf o Gaerdydd yn perfformio’r gân soul / pop, sydd wedi’i hysbrydoli gan natur a phrydferthwch y byd.

Daw Trystan Hughes o Gymoedd Abertawe yn wreiddiol, ond mae e bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cystadlodd Mali yn y gystadleuaeth yn 2019 dan yr enw Mali Melyn.

Ymhlith y Cewri gan Darren Bolger

Bydd Darren Bolger, saer maen o Gellilydan ym Mro Ffestiniog, yn perfformio’i gân ei hun eleni. Cyrhaeddodd ei gân O’r Brwnt a’r Baw yr wyth olaf yn 2015, gyda Cy Jones yn perfformio.

Diolch am y Tân gan Carys Eleri a Branwen Munn, a fydd yn cael ei pherfformio gan FFLOW, sef band y ddwy.

Collodd Carys Eleri, sy’n actores, cyflwynydd ac awdur, ei thad i glefyd motor niwron yn 2017.

Cyfansoddodd y gân ar y diwrnod y byddai e wedi troi’n 70 oed, fel dathliad o’i fywyd.

Pan Ddaw’r Byd i Ben gan Steve Williams

Daeth yr ysbrydoliaeth am y gân gan ddigwyddiadau COP26, a thrwy ei berfformiad mae Steve Williams yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd.

O ddydd i ddydd, mae’n gweithio fel ditectif i Heddlu Dyfed Powys yn y Drenewydd a chyrhaeddodd yr wyth olaf llynedd hefyd.

Mae yna Le gan Rhydian Meilir, wedi’i pherfformio gan Ryland Teifi.

Mae Rhydian Meilir o Gemaes ger Machynlleth yn wyneb cyfarwydd i’r gystadleuaeth, ac wedi cyrraedd y rhestr fer bedair gwaith erbyn hyn.

Mae ei gân eleni yn deyrnged i natur a phrydferthwch y byd.

Rhiannon gan Siôn Rickard

Bydd Siôn Rickard yn perfformio’r gân serch hon, sy’n deyrnged i’w gariad, Rhiannon.

Yn wreiddiol o Fetws y Coed, mae Siôn Rickard bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn aelod o’r band gwerinol Lo-fi Jones efo’i frawd, Liam Rickard.

“Amrywiaeth ryfeddol”

Dywed Dafydd Iwan ei bod hi’n “ddifyr iawn” cael bod ar y panel eleni, “a hynny flynyddoedd lawer ers cael y fraint o’r blaen”.

“Yr argraff ges i oedd bod y safon wedi codi gryn dipyn, a’r amrywiaeth yn rhyfeddol,” meddai.

“O ystyried mai cynnyrch amser hamdden yw’r caneuon hyn, a bod yna lawer o gyfansoddwyr na fyddai byth am gystadlu, mae gennym le i ymfalchïo fel Cymry yn ein creadigrwydd, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at glywed y rownd derfynol.”

‘Mwy nag un ffefryn’

Enillodd Elidyr Glyn y gystadleuaeth yn 2019.

“Mae hi’n fraint cael gwahoddiad i gymryd rhan fel beirniad, a ’dw i’n falch iawn o dderbyn y cyfle hwn i gyfrannu,” meddai.

“Ar ôl cael cymryd rhan yn y broses o ddewis caneuon ar gyfer rhan ola’r gystadleuaeth, rwy’n awyddus iawn i glywed barn y cyhoedd wrth iddynt bleidleisio am yr enillydd.

“Mae amrywiaeth eang wedi cyrraedd yr wyth olaf eleni – a dweud y gwir roedd llawer mwy o ganeuon a fuasai hefyd wedi gallu cael lle haeddiannol ar y rhaglen.

“Dw i’n amau y tro hyn y bydd hi’n rhaglen ble bydd gan lawer o bobol fwy nag un ffefryn, ac felly o bosib bydd hi’n gystadleuaeth agos.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’r noson unwaith eto, ac yn dymuno pob lwc i bob un o’r cyfansoddwyr a’r perfformwyr.”

  • Bydd Cân i Gymru ar S4C, nos Wener, Mawrth 4 am 8yh.