Papur Wal sydd wedi cipio gwobr y Band Gorau yng Ngwobrau’r Selar ar gyfer 2021.
Daeth y cyhoeddiad yn ystod rhaglen Huw Stephens ar Radio Cymru heno (nos Iau, Chwefror 17).
Bu’r gwobrau’n llwyddiant ysgubol iddyn nhw, wrth iddyn nhw hefyd gipio’r gwobrau ar gyfer y Gân Orau (‘Llyn Llawenydd’) a’r Record Hir Orau (‘Amser Mynd Adra’).
Mared sydd wedi’i henwi’n Artist Unigol Gorau ac mae hi’n derbyn gwobr sydd wedi’i noddi gan S4C.
Mae’r wobr ar gyfer y Gwaith Celf Gorau’n mynd i’r Cledrau ar gyfer ‘Cashews’ Blasus, ac mae honno wedi’i noddi gan wasg Y Lolfa.
Sŵnami sy’n cipio gwobr y Fideo Cerddoriaeth Gorau, wedi’i noddi gan S4C, am ‘Theatr’, tra mai Los Blancos sy’n mynd â hi yng nghategori’r Record Fer Orau, wedi’i noddi gan Ddydd Miwsig Cymru, ar gyfer ‘Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig’.