Mae ennill y “tri mawr” yng Ngwobrau’r Selar yn “anghredadwy”, yn ôl un o aelodau’r band Papur Wal.
Cafodd y band eu henwebu am bum gwobr i gyd, ac roedd cael enwebiadau mewn cymaint o gategorïau yn “briliant” yn y lle cyntaf, meddai Gwion Ifor, sy’n chwarae gitâr ac yn canu i’r band.
Roedd albwm gyntaf Papur Wal wedi cael ei henwebu yn am y Gwaith Celf Gorau, ond ‘Cashews Blasus’ gan Y Cledrau aeth â hi yn y categori hwnnw.
Derbyniodd y band ddau enwebiad yn y categori Fideo Gorau 2021 hefyd.
“Roedd o’n briliant cael ein henwebu i gymaint o gategorïau yn y lle cyntaf, roedden ni lawr am bump ohonyn nhw,” meddai Gwion Ifor wrth golwg360.
“Mae ennill y tri mawr, fysa ti’n gallu dweud – y sengl orau, albym orau, a band gorau – yn unbelievable rili.
“Faswn i ddim wedi gallu dychmygu y basa ni wedi cael rheina i gyd i fod yn onest, ond rydan ni’n hapus iawn.
“Mae’r ffaith mai’r cyhoedd sydd wedi pleidleisio, nid rhyw toffs mewn siwt – no offence i unrhyw wobrau eraill – yn golygu bod o’n rhywbeth sydd wedi cael ei fwynhau ar lawr gwlad a phobol sy’n mynychu gigs yn gwrando ar y gerddoriaeth go iawn ac mae hynna wastad yn rhywbeth neis.”
‘Diolchgar iawn’
Ydi un o’r gwobrau wedi plesio’r band yn enwedig?
“Rydan ni’n hapus i gael cydnabyddiaeth am unrhyw beth, mae o’n wych ein bod ni wedi curo’r tri ohonyn nhw yn ffordd eu hunain,” meddai Gwion Ifor.
“Ddoe, ella, y baswn i wedi dweud bod curo’r albym yn well na churo’r gân oherwydd mi allith cân fod yn flash in the pan, tra bod albym yn gyfanwaith ac roedden ni wedi edrych ymlaen i weld beth oedd ymateb pobol i’r albym.
“Ond rydan ni bellach wedi cael dallt ein bod ni wedi ennill y band gorau ac mae hynny yn dipyn o gamp hefyd.
“Yn y bôn rydan ni’n hapus iawn i fod wedi’u hennill nhw i gyd, ac yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth bleidleisio drostan ni.”
Tecwyn Ifan enillodd y Wobr Cyfraniad Arbennig eleni, a Marged Gwenllian, sy’n aelod o sawl band gan gynnwys Y Cledrau a Ciwb, gipiodd teitl Seren y Sîn eleni.