Bydd elusen Diwrnod y Llyfr yn dathlu eu pen-blwydd yn 25 oed yr wythnos hon, ac maen nhw’n gwahodd pawb i barti i ddathlu gorffennol, presennol, a dyfodol darllen plant.

Eleni, mae Diwrnod y Llyfr am ysbrydoli plant a theuluoedd i ystyried eu hunain yn ddarllenwyr ac i ddarllen gyda’i gilydd yn amlach.

Er mai darllen er pleser yw’r dangosydd mwyaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol, mwy nag amgylchiadau teulu, cefndir addysgol rhieni, ac incwm, mae’n mynd llai poblogaidd.

Mae poblogrwydd darllen er pleser ymysg plant ar ei lefel isaf ers 2005, ac yn ôl Diwrnod y Llys fydd y rhaglen eleni yn helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at ddarllen.

Cynlluniau

Mae uchafbwyntiau ymgyrch Diwrnod y Llyfr, a fydd yn cael ei gynnal ar Fawrth 3, yn cynnwys cyhoeddi llyfr £1 newydd yn Gymraeg gan yr awdur, bardd a’r seren teledu plant, Anni Llŷn, Lledrith yn y Llyfrgell.

Bydd adnoddau hwyliog a lliwgar yn llawn syniadau am sut i ddathlu gyda pharti wedi’i ysbrydoli gan ddarllen i nodi’r 25 mlynedd yn cael eu cyhoeddi hefyd.

Fe fydd dwy gystadleuaeth yn cael eu cynnal, un ar gyfryngau cymdeithasol Cyngor Llyfrau Cymru i ennill pentwr o 25 llyfr, a chystadleuaeth ar Awr Fawr Cyw ar S4C i annog plant ac ysgolion i anfon lluniau o’u dathliadau a’u gwisgoedd Diwrnod y Llyfr.

Er mwyn ei gwneud yn hawdd i bawb gymryd rhan yn Niwrnod y Llyfr 2022 ac i annog dathliad o ddarllen, bydd cyfres o adnoddau ar-lein hefyd ar gael ar wefan Diwrnod y Llyfr.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn annog pobol i fynd draw i’w siop lyfrau neu lyfrgell leol i ddarganfod pa lyfrau sy’n cydio yn eu dychymyg.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar y diwrnod ei hun, a chyn hynny hefyd, gan gynnwys ymgyrch You Are A Reader ar y cyfryngau cymdeithasol, lle bydd awduron gwadd Diwrnod y Llyfr, dylanwadwyr, a thalentau o fydoedd teledu, ffilm, cerddoriaeth a llenyddiaeth yn rhannu eu hoff straeon ac yn annog plant a’u teuluoedd i ymgolli mewn llyfrau.

‘Manteision gydol oes’

Dywed Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, ei bod hi wrth ei bodd fod y Cyngor Llyfrau’n gallu cefnogi’r gwaith o gyflwyno Diwrnod y Llyfr a dathlu’r pen-blwydd.

“Rydym yn gwybod bod datblygu arfer o ddarllen er pleser yn ifanc yn dod â manteision gydol oes, ac rydym yn credu’n gryf y gall pawb fod yn ddarllenydd,” meddai.

“Dyna pam rydym mor falch o allu sicrhau bod llyfr £1 arall ar gael yn Gymraeg eleni ac o weithio gyda’n ffrindiau o elusen Diwrnod y Llyfr i annog pawb i ddod o hyd i’r llyfr addas ar eu cyfer, ble bynnag maen nhw ar eu taith ddarllen.”