Bydd nofel gyntaf yr actor a’r canwr poblogaidd Iwan ‘Iwcs’ Roberts yn cael ei throi’n ddrama deledu.
Daw Iwan Roberts o Drawsfynydd, ac mae’n adnabyddus am bortreadu’r cymeriad ‘Kevin Powell’ yn y gyfres sebon, Pobol y Cwm.
Mae’n enwog hefyd am fod yn un rhan o ddeuawd Iwcs a Doyle, a enillodd Cân i Gymru yn 1996 gyda ‘Cerrig yr Afon’.
Mae’r broses o gynhyrchu addasiad teledu o’i nofel Dal y Mellt wedi dechrau yng Nghaerdydd, a bydd y criw yn symud i’r gogledd, i Ddulyn, ac yna i Soho yn Llundain i gwblhau’r ffilmio.
“Peintio efo geiriau”
Bydd y ddrama ar S4C yn yr hydref, ac roedd Iwan Roberts, sy’n un o gynhyrchwyr y gyfres hefyd, yn gwybod ei bod hi’n nofel weledol iawn wrth iddo ei hysgrifennu.
“Drama oedd hi yn fy mhen cyn i mi ddechrau,” meddai am Dal y Mellt, a gafodd ei chyhoeddi yn 2019.
“Peintio hefo geiriau oeddwn i mewn ffordd.
“Roeddwn i wedi dechrau sgwennu yn bell cyn hynny wrth gwrs, pan oeddwn i’n gweithio ar Pobol Y Cwm. Yna, yn 2016 gofynnodd Llŷr Morus, sy’n gynhyrchydd gyda Vox Pictures, i gael gweld y manuscript.
“Mae gan Llŷr glust a llygaid craff – roeddwn i wrth fy modd pan ddywedodd o fod hi’n chwip o nofel a bod ganddo ddiddordeb ei throsi hi [ar gyfer y teledu].
“Felly, mi wnes i sgwennu’r gyfres ar ben fy hun, gan fynd nôl a ’mlaen at Llŷr dros gyfnod o flwyddyn. Mae’r holl broses yn dipyn o learning curve.
“Daeth Huw Chiswell on board fel cyfarwyddwr. Neu Huw Chisell fel dwi’n ei alw o – achos oedd o’n torri golygfeydd cyfan allan yn ystod y broses o olygu’r sgriptiau!
“Er bod o’n anodd gwneud newidiadau weithiau oherwydd fy ‘mhlentyn i’ ydi o, Huw sy’n iawn wrth gwrs ac mae’n fraint cael gweithio hefo fo.
“Dw i’n ffodus ofnadwy o gael gweithio hefo pobol sy’n lot fwy profiadol yn y maes.”
Mae cast y ddrama yn cynnwys Gwion Morris Jones, Mark Lewis Jones, Graham Land, Siw Hughes, Dyfan Roberts, Lois Meleri-Jones, Owen Arwyn, ac Ali Yassine.
“Drama Gymraeg i bobol Cymru”
Fe fydd y gyfres yn “driw iawn i’r nofel” yn ol Iwan Roberts.
“Roedd pobl yn gofyn, be fydda ti’n cymharu fo hefo; Peaky Blinders, stwff Guy Ritchie? Naci, dw i eisio i bobl ddweud: ‘Mae’n debyg i Dal y Mellt‘,” meddai.
“Dw i’n grediniol mai drama Gymraeg i bobol Cymru ydi hon, achos mae’r Cymry’n haeddu fo.
“Mae Rhys Ifans yn dweud ar flaen y nofel: ‘Taith wyllt i berfeddion byd sy’n troi o dan ein trwynau’.
“Roeddwn i’n trio creu bywyd eithaf real a byrlymus. Sefyllfaoedd mae pobol yn cael eu rhoi i mewn ac maen nhw’n trio ffeindio’i ffordd allan ohoni, a does neb yn gwybod yn iawn beth sy’n mynd ymlaen.
“Roeddwn i’n meddwl fod hwnna’n ddiddorol iawn o ran darllenydd, a dyna dw i’n drio gyfleu rŵan i’r gwylwyr.
“Felly bydd yr addasiad teledu, sef chwe awr o ddrama, yn driw iawn i’r nofel.”
“Ffres ac egnïol”
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C, y bydd y ddrama newydd yn dod â “rhywbeth ffres ac egnïol” i’r sianel.
“Mae cast anhygoel sydd â’r gallu i greu drama all y gynulleidfa wir ymgolli ynddi,” meddai Gwenllian Gravelle.
“Trwy sicrhau fod edrychiad ac arddull y gyfres tipyn yn wahanol i’r arfer o ran goleuo, gwisgoedd a props, mae Vox Pictures wrthi’n cynhyrchu gwaith arbennig iawn.
“Dw i methu aros i gyflwyno’r ddrama i’r gwylwyr yn yr Hydref.”