Roedd hi’n “fraint enfawr” ennill gwobr Seren y Sîn Gwobrau’r Selar eleni, meddai Marged Gwenllian.
Cafodd y basydd sy’n chwarae gyda sawl band gan gynnwys Y Cledrau a Ciwb, “andros o sioc” wrth glywed ei bod hi ar y rhestr fer, heb sôn am fynd ymlaen i ennill y wobr.
Enillodd albwm ddiweddaraf Y Cledrau, Cashews Blasus, wobr am y Gwaith Celf Gorau hefyd, ac mae’r band yn edrych ymlaen at gael mwy o gyfleoedd i chwarae’r caneuon yn fyw eleni.
“Roedd yna gymaint o enwau da ar y rhestr hir. Cefais i andros o sioc fy mod i ar y rhestr fer,” meddai Marged Gwenllian, sy’n dod o Lanuwchllyn, wrth golwg360.
“Pan wnaethon nhw ofyn i fi fod ar y lein i Radio Cymru, roeddwn i’n meddwl: ‘W, tybed?’
“Roeddwn i’n andros o nerfys, ond na, roeddwn i wrth fy modd.”
Gwefr canu i gynulleidfa
Mae calendar cerddorol Marged Gwenllian yn prysur lenwi, meddai, a bydd Ciwb yn perfformio eu gig cyntaf yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mangor ddechrau mis Mawrth.
“Wythnos i heddiw, mae Merched yn Gwneud Miwsig, yr ail un, yng Nglan-llyn, felly dw i’n edrych ymlaen i arwain hwnnw eto efo Heledd Watkins a Hana Lili achos roedd y cyntaf yn benwythnos mor braf – cael merched ifanc, eithaf dihyder a swil, jyst yn dod at ei gilydd a jamio a dysgu lot am gerddoriaeth mewn awyrgylch sâff.
“Dw i hefyd yn llenwi mewn [ar y bass] i Gwilym yn Rhyng-gol hefyd.
“Trio ffitio ymarferion mewn a balansio gwaith, mae hi ychydig bach yn hectic arna i!”
Mae gan Y Cledrau dipyn o gigs ar y gweill hefyd, ac er bod y band o’r Bala ac Ynys Môn wedi gwneud ambell gig rithiol dros y pandemig, does yna ddim byd yr un fath â pherfformio o flaen cynulleidfa, meddai Marged Gwenllian.
“Ti’n sbio’n ôl ac roedden ni’n andros o fflat ynddyn nhw,” meddai.
“Os nad ydy egni’r dorf yna, dydy o ddim yn cael ei drosglwyddo i ni.
“Rydyn ni wedi bod yn perfformio’r un caneuon dro ar ôl tro, rydyn ni’n fed up o’r caneuon ond be sy’n exciting mewn gig ydy gweld ymateb pobol iddyn nhw, pobol sy’n clywed nhw am y tro cyntaf.
“Heb hynny, mae chwarae’r un caneuon dro ar ôl tro i neb yn gallu bod yn fflat, sy’n dangos bod cael cynulleidfa’n neidio i dy ganeuon di gymaint o wefr.”
Y celf yn adlewyrchu’r geiriau
James Reid oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith celf ar gyfer albym ddiweddaraf Y Cledrau, a’i steil wnaeth ddenu Marged Gwenllian at ei waith.
“Digwydd bod, doedd o ddim yn siarad Cymraeg ond roedd o rili, rili eisiau gwneud delweddau cartwnaidd, ychydig bach yn wacky ella, ac roedd o rili eisiau i’r gwaith fod yn adlewyrchiad o’r geiriau,” meddai.
“Joseff [Owen] ac Alun [Lloyd] sy’n sgrifennu’r geiriau, Joseff sy’n gwneud y rhan fwyaf. Mae ei eiriau fo fel arfer yn hollol boncyrs, a ddim yn gwneud synnwyr, felly pan oeddet ti’n cyfieithu hynny roedden nhw hyd yn oed gwaeth.
“Roedd honna’n job! Gaethon ni lot o Zooms efo fo, dydyn ni dal erioed wedi’i gyfarfod o yn y cnawd.
“Mae popeth sydd ar glawr yr albym yn elfennau o wahanol ganeuon, mae o wedi cymryd be oedd o’n ei weld fwyaf trawiadol allan.
“Maen nhw’n edrych fel squiggles bach cartwnaidd, ond mae gan bob un ystyr. Roedd hi’n andros o braf cydweithio efo fo. Alla i ond ei ganmol o.”
“Wrth ein boddau”
Roedd ennill y wobr am y Gwaith Celf Gorau yn “newyddion gwych”, meddai Joseff Owen, prif leisydd Y Cledrau, wrth golwg360.
“Roedden ni wrth ein boddau. Roedden ni’n gweld o’n funny mai’r unig wobr Selar rydyn ni wedi’i hennill ydy’r gwaith celf wnaeth rywun arall… Ond, na, roedd o’n grêt.
“Roedden ni’n falch, roedden ni’n cael y syniad bod James wedi rhoi lot o ymdrech a lot o waith meddwl. Roedd o’n grêt gallu cydnabod hynna.”
Oes yna drydedd albym ar y ffordd dybed?
“Dw i’n meddwl ein bod ni yn y phase lle mae pawb yn pitran potran yn araf deg,” meddai Joseff Owen.
“Mae’n cymryd mor hir rhwng y sgrifennu a’r mynd i’r stiwdio, a wedyn rhyddhau, rydyn ni’n tueddu i eistedd yn ôl a meddwl ‘Mae gennym ni albym newydd’.
“Roedden ni dal i ystyried yr albym gyntaf fel albym newydd, a chyn i ni droi rownd roedd yna bedair blynedd [wedi pasio].
“Felly, dw i’n meddwl ei bod hi’n syniad i ni ddechrau gwahodd yr awen unwaith eto!”