Mae gan lyfrau’r “pŵer i wneud i bobol deimlo’n well”, meddai’r awdur Manon Steffan Ros.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru a’r Asiantaeth Ddarllen eu rhestr fer ar gyfer Gaeaf Llawn Lles, sef casgliad o 25 o lyfrau a gafodd eu henwebu gan blant am eu gallu i wneud iddyn nhw deimlo’n well, yn fwy cysylltiedig, ac fel eu bod nhw’n cael eu deall.

Mae Fi ac Aaron Ramsey, stori am ddau ffrind wrth i Gymru gyrraedd yn Ewros yn 2020, gan Manon Steffan Ros ymhlith y 25 llyfr sy’n codi calonnau.

Nod Gaeaf Llawn Lles yw helpu plant a phobol ifanc i wella o’r pandemig, ac mae’r enillwyr eraill yn cynnwys Sw Sara Mai gan Casia Wiliam, Sgramblo gan Huw Davies, ac Y Pwll gan Nicola Davies a Cathy Fisher.

Dydy Manon Steffan Ros byth yn ysgrifennu llyfr gyda’r bwriad o wneud pwynt cymdeithasol, “dim ond dweud stori”, a dywed ei bod hi “wir wedi gwirioni” wrth gyrraedd y rhestr.

“Roedd y nofel yma’n enwedig yn teimlo’n berthnasol iawn, am fod y prosiect ar un lefel yn ymateb i’r anawsterau sy’n wynebu pobol ifanc yn dilyn y pandemig,” meddai Manon Steffan Ros wrth golwg360.

“Fe wnes i sgrifennu’r nofel wreiddiol am hogyn yn mynd i Euros 2020, ac wedyn gorfod dileu’r cyfan am fod y bencampwriaeth wedi ei gohirio achos Covid.

“Felly mae Covid wedi ryw fath o gyfyngu byd y nofel, ond mae hynny wedi gwneud lles, dw i’n meddwl – y craffu ar bethau agos, lleol, personol.”

‘Dysgu empathi’

Mae stori’n mynd â chi i rywle arall, meddai Manon Steffan Ros, yn aml ymhell o’r byd yma, “a’r holl helbulon neu gymhlethdodau”.

“Mae darllen yn gallu bod yn lawer iawn o wahanol bethau i lawer iawn o bobol, ac mae gan lyfrau’r pŵer i wneud i bobol deimlo’n well, yn sicr,” meddai.

“Un peth pwysig arall am straeon ydi eu bod nhw’n dangos y byd i chi o bersbectif gwahanol i’ch un chi, ac mae hyn yn hollbwysig yn fy marn i – maen nhw’n rhoi’r gallu i chi ddeall fod pawb yn ganolbwynt ei stori ei hun, ac mor allweddol ydi cydnabod a pharchu hynny.

“Mewn gwirionedd, mae’n profiadau ni fel unigolion i gyd mor gyfyng, ond drwy ddarllen, rydyn ni’n cael cip o feddyliau’r cymeriadau yma sy’n hollol wahanol i ni.

“Mae stori yn dysgu empathi. Dwi’n meddwl ei bod hi wedi bod yn braf iawn, yn y cyfnod diweddar yma, i gael llyfrau i fynd â ni ar daith o’n bywydau ein hunain, a hynny pan fo teithio yn amhosib go iawn.

“Dw i wastad wedi caru llyfrau, ond dwi’n meddwl ei fod o wedi cymryd tan rŵan i mi sylweddoli mor allweddol ydyn nhw i fi.”

‘Cysylltu pobol â’u cymuned’

Dywed Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Ddarllen, eu bod nhw’n “mawr obeithio” bod y llyfrau a’r awduron yn helpu pobol i deimlo’n well.

“Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi’r rhestr lyfrau wych hon, sy’n dod o ffynonellau torfol, fel rhan o’r Gaeaf Llawn Lles, sef menter ragorol Llywodraeth Cymru sy’n cysylltu plant a phobol ifanc â’i gilydd a’u cymuned trwy rym darllen,” meddai.

“Rydym ni’n mawr obeithio y bydd y llyfrau a’r awduron hyn yn helpu pobol i deimlo’n well y gaeaf hwn wrth i ni barhau i ddod allan o’r pandemig ac rydym ni eisiau diolch i bawb a enwebodd lyfr!”