Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Jamal Edwards, entrepreneur a hyrwyddwyr cerddoriaeth wnaeth helpu i ddechrau gyrfaoedd artistiaid fel Ed Sheeran.

Roedd Jamal Edwards, fu farw yn 31 oed ddoe (dydd Sul, Chwefror 20), yn llysgennad i Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, a derbyniodd MBE yn 2014 am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Sefydlodd sianel YouTube SBTV pan oedd yn ei arddegau i uwchlwytho clipiau o’i ffrindiau yn perfformio yn Llundain.

Erbyn 2014, roedd wedi gweithio gydag artistiaid fel Jessie J ac Emeli Sande, ac wedi gwneud ffortiwn o tua £8m.

“Fel entrepreneur ac arloeswr anhygoel, mae Jamal Edwards MBE wedi bod yn ysbrydoliaeth i gymaint o bobol ifanc, drwy ein gwaith a thu hwnt,” meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru wrth dalu teyrnged iddo.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu.”

Roedd Jamal Edwards yn fab i Branda Edwards, un o banelwyr Loose Women, ac mewn teyrnged dywedodd Denise Welch, un o’i chyd-banelwyr, bod ei chalon yn gwaedu drosti.

“Alla i ddim ei oddef,” meddai.

“Roedd Jamal yn fab ac yn frawd hyfryd.”

‘Ysbrydoliaeth’

Dywedodd yr actor, cyfarwyddwr, a’r cynhyrchydd Adam Deacon, sy’n adnabyddus am ei ran yn Kidulthood, fod ei “galon yn torri” wedi marwolaeth Jamal Edwards.

“Roeddwn i ar set heddiw pan wnes i glywed y newyddion trychinebus bod fyd ffrind da Jamal Edwards wedi marw, ac mae fy nghalon wirioneddol yn torri,” meddai.

“Jamal oedd un o’r dynion neisiaf, diymhongar, a’i draed ar y ddaear dw i wedi’u cyfarfod yn y diwydiant hwn.

“Roedd e wastad yn gwneud amser i fi pan na fyddai unrhyw un arall.

“Roedd e’n ysbrydoliaeth ac roedd yr hyn lwyddodd i’w wneud mewn bywyd yn rhyfeddol. Yn meddwl am ei ffrindiau a’i deulu ar yr adeg anodd hwn. Cwsg mewn hedd Jamal Edwards.”