Mae Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi enwau rhai o’r artistiaid fydd yn perfformio ar lwyfannau’r ŵyl wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni.

Bydd y Sesiwn Fawr yn cael ei chynnal dros benwythnos Gorffennaf 15-17 mewn nifer o leoliadau ar hyd a lled y dref.

Ymhlith yr enwau mawr fydd yn perfformio yno eleni mae Yws Gwynedd, Tara Bandito a Sŵnami ar y prif lwyfan sydd wedi’i noddi gan Radio Cymru.

Wrth i’r ŵyl barhau i ddathlu cerddoriaeth werin, maen nhw hefyd wedi cadarnhau ymddangosiadau gan Skerryvore o’r Alban, N’famady Kouyaté o Guinea Gorllewin Affrica a The Trials of Cato.

Am y tro cyntaf erioed, ar y nos Sul fe fydd perfformiad arbennig yn Eglwys y Santes Fair gan Vrï ac artistiaid eraill i gloi’r penwythnos.

Mae disgwyl o hyd am gadarnhad o’r artistiaid fydd yn perfformio yn y Clwb Rygbi, a’r sesiynau comedi a llên, tra bydd yr arlwy i blant a phobol ifanc yn cynnwys amrywiol weithdai.

Bydd tocynnau ar gael ar wefan y Sesiwn Fawr, www.sesiwnfawr.cymru, o Fawrth 1 ac yn ôl traddodiad yr ŵyl, bydd hi’n cael ei lansio mewn Gŵyl Gwrw ar Ebrill 9.

‘Edrych ymlaen yn eiddgar ar ôl hir ymaros’

“Fel cymaint o ddigwyddiadau eraill, ni fu modd cynnal yr ŵyl yn ei ffurf arferol ar strydoedd Dolgellau dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i’r pandemig, ond trefnwyd sesiynau rhithiol i lenwi’r bwlch,” meddai’r cadeirydd Guto Dafydd.

“Ar ôl hir ymaros, felly, rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd trigolion Dolgellau, ynghyd â hen ffrindiau a rhai newydd yn ôl i fwynhau arlwy’r Sesiwn mewn person unwaith eto.

“Mae hi wedi bod yn bleser sicrhau lein-yp cryf er mwyn dathlu’r garreg filltir arbennig o 30 mlynedd ers sefydlu’r Sesiwn Fawr!”

‘Da Ni Nôl’

“Mae’n bleser cyhoeddi y bydd Radio Cymru yn dychwelyd i fod yng nghanol y Sesiwn Fawr unwaith eto – yn enwedig ar ôl cyfnod mor anodd,” meddai Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymru BBC Cymru.

“Mae gen i atgofion braf iawn o wylio a darganfod pob math o artistiaid gwych a gwahanol yn y Sesiwn, a dwi’n gwybod fod gwrandawyr Radio Cymru wrth eu bodd yn rhannu’r profiadau hynny yn Nolgellau ac ar y radio.

“Yng ngeiriau un o brif artistiaid yr ŵyl eleni – “Da Ni Nôl” ac yn edrych ymlaen!”