Mae cwmni recordiau Sain yn rhyddhau casgliad o ganeuon newydd sbon danlli gan rai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Cafodd y caneuon eu recordio yn arbennig ar gyfer y gyfres Ambell i Gân ar BBC Radio Cymru, a ddarlledwyd ym mis Medi a Hydref 2021.
Roedd y gyfres yn dathlu cerddoriaeth werin, gan ddarlledu sgyrsiau gydag artistiaid gwerin, traciau hen a newydd a pherfformiadau byw.
Bydd modd gwrando ar y perfformiadau hyn yn ddigidol o Fawrth 1 ymlaen, gyda 12 o ganeuon i gyd.
Ymhlith yr artistiad fuodd yn perfformio mae Llio Rhydderch, Cynefin, Twm Morys a Gwyneth Glyn, Einir Humphreys, Huw Roberts a Sion Roberts, a Mair Tomos Ifan.
“Deuddeg o draciau felly a phob un wedi eu recordio a’u perfformio mewn arddull ac awyrgylch gartrefol a chynnes, sy’n arddangos didwylledd a phrydferthwch ein caneuon a’n halawon Cymreig,” meddai Sain mewn datganiad.