Mae hanesydd sy’n arbenigo ar y gymuned LHDT yng Nghymru wedi datgelu bod trawswisgo yn “gwbl gyffredin” yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn groes i’r hyn y byddai rhai’n ei ddisgwyl.
Yn 2021, fe gyhoeddodd Norena Shopland ei llyfr A History of Women in Men’s Clothes, sy’n edrych ar hanes merched yn trawswisgo, traws-weithio, a thraws-fyw fel dynion.
Yn ddiweddarach, fe ysgrifennodd hi flog yn dadansoddi baled Gymraeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a oedd yn dweud dipyn am drawswisgo a pherthnasau rhywiol hoyw.
Dywed fod menywod yn aml yn trawswisgo fel dynion ar y pryd a bod “posibilrwydd llwyr” y byddai rhai o’r menywod hynny’n cael eu hadnabod fel lesbiaid neu unigolion trawsryweddol erbyn heddiw.
‘Doedd o ddim y math o beth fyddai’n cael ei ganu mewn Eisteddfodau’
Wrth wneud cyflwyniad yn trafod y llyfr A History of Women in Men’s Clothes, fe wnaeth Nia Mai Daniel o’r Archif Gerddorol Gymreig gysylltu â Norena Shopland yn cyfeirio at faled Gymraeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
‘Cân Newydd’ gan Abel Jones, a oedd yn cael ei adnabod fel Y Bardd Crwst, oedd y faled honno, ac mae sôn yn y cynnwys am draws-wisgo a pherthnasau rhywiol hoyw.
“Mae llawer o bobol wedi ysgrifennu am faledi ond dydy hon heb ddod i fyny yn aml o’r blaen,” meddai Norena Shopland wrth golwg360.
“Mae’n anodd ei dyddio, ond rydyn ni’n meddwl – gyda help athro o Brifysgol Caerdydd – ei bod o gwmpas 1865 i 1872.
“Y rheswm rydyn ni’n credu nad yw llawer o bobol yn gwybod amdani yw oherwydd ei natur anweddus.
“Mae’n trafod hanes dwy ddynes yn mynd i ffwrdd i gael rhyw gyda dwy ddynes arall. Dyna pam rwy’n credu ei bod wedi cael ei hepgor o’r casgliadau o faledi.
“Byddai’r natur rywiol hynny wedi bod yn erbyn rheolau cymdeithasol ar y pryd. Doedd o ddim y math o beth fyddai’n cael ei ganu mewn Eisteddfodau ac ati.
“Roedd o’n eithaf trawiadol, ac mae wedi cael ei esgeuluso am hynny.”
Perfformiad cyntaf ers 150 mlynedd?
Ar hyn o bryd, mae Norena Shopland yn cydweithio â Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd, myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ac unigolion eraill er mwyn ceisio adeiladu casgliad o faledi Cymraeg sydd â chynnwys am y gymuned LHDT.
Bydd y faled ‘Cân Newydd’ yn cael ei pherfformio mewn digwyddiad gan y grŵp Aberration, sy’n cynnal digwyddiadau celfyddydol yn ymwneud â phynciau LHDT yn nhref Aberystwyth.
“Rwy’n gweithio’n agos gydag Aberration ac roedden nhw’n awyddus i gael y faled wedi ei pherfformio,” meddai.
“Maen nhw’n gwneud cyfres o ddramâu o’r enw Queer Tales from Wales, sy’n edrych ar bobol LHDT o’r gorffennol, felly ro’n i’n meddwl mai nhw oedd y bobol berffaith i geisio trefnu hyn.
“Maen nhw wedi comisiynu cantores, a bydd hi’n recordio a pherfformio’r faled ar Fawrth 26.
“Rydyn ni’n credu mai dyma’r tro cyntaf i hynny ddigwydd ers yr 1870au fwy na thebyg.”
‘Codi cwestiynau am beth yw rhywedd’
Wrth edrych ar draws-wisgo, sy’n nodwedd amlwg yn y faled, dywed Norena Shopland fod hynny’n “gwbl gyffredin” yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
“Fe oedd i’w weld ar hyd y lle ym mhob man,” meddai.
“Un o’r pethau sy’n dod yn amlwg pan wnes i ysgrifennu fy llyfr oedd bod gennym ni’r syniad hwn o fenywod yn styc yn eu cartrefi a’n methu mynd allan cymaint â hynny, ond roedd menywod yn traws-wisgo yn aml yn eu hamser hamdden.
“Mae’n codi cwestiynau am beth yw rhywedd. Mae rhywedd yn lluniad cymdeithasol, lle mae menywod yn gallu gwisgo dillad dynion a gwneud beth bynnag a fynnon nhw.”
Trawswisgo ar gyfer swyddi
Dywed Norena Shopland fod traws-wisgo yn aml yn digwydd am resymau ariannol, wrth i fenywod wisgo fel dynion er mwyn cael gwaith.
“Roedd menywod yn traws-weithio yn bron bob un swydd allwch chi feddwl amdano,” meddai.
“Doedd dim ysgariad yn y gorffennol, ac os oedd dyn eisiau mynd ar ei liwt ei hun, roedd yn gadael ei wraig i edrych ar ôl y plant.
“Wrth gwrs, roedd cyflogau menywod draean neu chwarter cyflogau’r dynion, felly roedden nhw’n aml yn gorfod mynd i’r gweithdai.
“Unwaith roedden nhw’n dechrau ennill dipyn o arian, roedd menywod yn meddwl ei fod yn syniad da.
“Fe ddaeth yn beth mor gyffredin, i’r pwynt lle oedd papurau newydd yn cwyno amdano. Roedden nhw’n tybio bod cymaint o forwyr benywaidd a bod morwyr gwrywaidd yn dod dan fygythiad.
“Yn sicr, roedd ymwybyddiaeth enfawr o hyn ar y pryd.”
Dehongliadau
“Mae rhai pobol wedi dehongli’r faled fel beirniadaeth ar ddynion,” meddai Norena Shopland wedyn.
“Roedd y cynnwys yn awgrymu bod menywod eisiau sylw’r dynion, a fod y dynion ddim yn ei roi yn ôl.
“Ond mae hynny’n anwybyddu’r posibilrwydd llwyr y gallai’r menywod hyn fod wedi bod yn lesbiaidd neu’n drawsryweddol, fel rydyn ni’n cyfeirio atyn nhw heddiw.”
Mae Mis Hanes LHDT+ wedi bod yn cael ei ddathlu drwy gydol mis Chwefror er mwyn codi ymwybyddiaeth am straeon o’r gymuned honno.