Bydd un o drysorau pentref Beddgelert sy’n dychwelyd yno am y tro cyntaf ers dros 70 mlynedd yn rhan o gyfres newydd rhaglen Cynefin ar S4C.

Ar Fedi 21 1949, fe gafodd to gwesty’r Tywysog Llywelyn ar lan yr afon Glaslyn ei daro gyda gwrthrych anhysbys yn ystod oriau man y bore.

Er mawr syndod i’r perchnogion a’r gwestai, fe sylweddolon nhw’n ddiweddarach mai gwibfaen, neu meteorite, oedd wedi taro’r gwesty – yr ail dro yn unig i hynny ddigwydd yng Nghymru erioed.

Cafodd y garreg wedi’i haneru ei gwerthu am grocbris i’r Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain ac i Brifysgol Durham, a dydy’r darnau heb weld golau dydd yn y pentref ers 1949.

Mae darn o’r garreg bellach yn nwylo Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae hwnnw i’w weld yn Arddangosfa Esblygiad Cymru yng Nghaerdydd.

Gyda diolch iddyn nhw, fe gafodd criw cynhyrchu rhaglen Cynefin fenthyg y darn hwnnw a’i gludo yn ôl i ogledd Cymru.

Ym mhennod gynta’r gyfres newydd, a fydd yn cael ei darlledu ar Fawrth 1, fe fydd y cyflwynydd Iestyn Jones yn cael clywed mwy am yr hanes.

‘Rhan eithriadol o bwysig o’n hanes’

Andrew Haycock, curadur Mwynyddiaeth a Phetroleg yn yr Amgueddfa Genedlaethol, oedd yn gyfrifol am y gamp o gludo’r wibfaen o Gaerdydd i Wynedd yn ddiogel.

“Hyd y gwyddwn ni dim ond dwy garreg fellt sydd wedi glanio yng Nghymru erioed felly mae carreg fellt Beddgelert yn rhan eithriadol o bwysig o’n hanes,” meddai.

“Mae Cymru bellach yn rhan o brosiect Gwyddonol FRIPON (Fireball Recovery and Inter-Planetary Observation Network), rhwydwaith fyd-eang o gamerâu sy’n cadw llygad ar yr awyr am sêr gwib er mwyn cynorthwyo gwyddonwyr i ragweld ble fydd cerrig mellt yn glanio.

“Mae un o’r camerâu hyn ar do Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

“Pwy a ŵyr, mi allai sylwi ar y gwibfaen nesaf i lanio yng Nghymru!”

‘Rhyfeddod’

Un sydd wedi siarad ar y rhaglen yw John Harry, sy’n cofio’r digwyddiad yn glir.

“Roedd fy nhad yn adeiladwr, a fo oedd y cyntaf i afael yn y garreg fellt pan ddaethpwyd o hyd iddi o dan dwll yn nho’r gwesty,” meddai.

“Mae’n rhyfeddod ei bod hi’n ôl ym Meddgelert eto.”

Yn y cyfamser, bydd y cyflwynwyr eraill, Heledd Cynwal a Siôn Tomos Owen, ar drywydd rhai o hanesion eraill y pentref, gan gynnwys tarddiad yr enw a stori am ysbryd.

Yng ngweddill y gyfres, a fydd yn cael ei darlledu bob nos Fawrth am 9:00, bydd y criw hefyd yn ymweld â Threffynnon, Dyffryn Tanat ac ardal y Cleddau.