Mae cynhyrchwyr ffilm fer sy’n dilyn taith rhedwr mynydd dros gopaon Eryri yn gobeithio y bydd ganddi apêl ryngwladol.
Bydd Solo and Unsupported gan Gwmni Da, sy’n dilyn Russell Bentley o Flaenau Ffestiniog wrth iddo gwblhau un o rasys caletaf y byd, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.
Mae Russell Bentley yn dal y record am Amser Cyflymaf Hysbys y Gaeaf ar gyfer rownd Paddy Buckley, her a gymerodd dros ugain awr iddo ei chwblhau wrth iddo redeg 100 cilomedr gan ddringo 8,000 metr dros 47 o gopaon Eryri.
Cwblhaodd yr her yn gyfan gwbl ar ben ei hun, heb unrhyw gefnogaeth, ac fe ychwanegodd hynny at yr her o ffilmio’r ras, meddai Huw Erddyn, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Solo and Unsupported.
“Dw i wedi gweithio ar raglenni tebyg yn y gorffennol, dw i wedi ffilmio’r sialens yma o’r blaen efo Huw Brassington,” meddai Huw Erddyn wrth golwg360.
“Ond dw i erioed wedi’i wneud o efo rhywun sy’n gwneud o ar ben ei hun o’r blaen. Mae hi’n sialens wahanol mewn ffordd, a dw i bendant heb ffilmio rhywun yn gwneud rhywbeth o’r fath ynghanol gaeaf o’r blaen.
“I ddechrau, doedden ni ddim yn gwybod pryd roedd o’n mynd i’w wneud o. I gyflawni’r Winter Paddy Buckley, mae yna ffenest eithaf tynn.
“Roedd Russell angen ffeindio’r ffenest oraf posib i’w wneud o yn yr amser yna. Roedden ni’n ddibynnol ar y tywydd i allu penderfynu pryd roedden ni’n mynd i’w wneud o.
“Roedd hynny’n golygu bod ni ar standby.”
Heriau dal yr her
Bu’n rhaid i Russell Bentley, a gafodd ei eni yn Llundain ond sy’n byw yng Nghymru gyda’i wraig Nina a’u dau o blant ers tua wyth mlynedd, drio’r her ddwywaith, ar ôl gorfod rhoi’r gorau iddi yn sgil tywydd garw annisgwyl y tro cyntaf.
“Roeddwn i’n digwydd bod ar ben Pen yr Helgi Du adeg hynny, ganol eira, minus 5, neu be bynnag oedd hi, cyrraedd y top, a sylwi bod o wedi tynnu allan yng Nghapel Curig,” meddai Huw Erddyn.
“Yr ail ymgais wedyn, tywydd hollol wahanol ond fe wnaeth o ddigwydd yn fwy byr rybudd.”
Fel arfer, mae pobol yn cefnogi’r rhedwyr yn ystod y rownd, naill ai drwy gyd-redeg neu drwy gyfarfod â nhw ar wahanol rannau o’r daith.
“Roedd Russell wedi penderfynu ei fod o’n mynd i’w wneud o ‘solo and unsupported’, sy’n golygu bod o’n gwneud o gyfan gwbl ar ben ei hun, dim rhedwyr yn ei gefnogi fo, a’r unsupported yn golygu bod o ddim yn cael unrhyw gefnogaeth gan unrhyw un drwy’r holl ddiwrnod – neb yn rhedeg efo fo, neb yn cyfarfod o ar unrhyw bwynt, a neb hyd yn oed yn cael siarad efo fo,” eglura Huw Erddyn, sydd wedi gweithio â Russell Bentley o’r blaen yn ystod Ras Cefn y Ddraig.
“Mewn ffordd, mae’n anoddach cael y stori achos dydy o ddim yn cael siarad efo ni so roedd o’n cario GoPro efo fo yn ei boced, ac roedden ni’n llwyr ddibynnol ar be roedd o’n recordio ar ei GoPro.
“Dyna oedd yr unig sgwrs roedden ni’n ei chael o fewn y ffilm, yn amlwg rydyn ni wedi gwneud cyfweliad efo fo ar ôl iddo fo ddigwydd.
“Ond mae hi’n sialens wahanol fel filmmaker, mae be mae rhywun yn ddweud wrtha chdi fatha aur – hwnna ydy’r gem sy’n gwneud rhaglen.
“I fethu gallu gwneud hynny’n hunain, ein bod ni methu gofyn cwestiynau i Russell, a dal hynny yn y foment, mae o’n golled fawr.
“Felly roedden ni’n llwyr ddibynnol ar be’ roedd Russell yn ei wneud ei hun. Mewn ffordd, roedd o’n golygu ein bod ni’n gallu canolbwyntio’n llwyr ar y ffilmio shots gweledol a ddim yn gorfod poeni am y cynnwys.
“Mae o hefyd wedi gwneud y ffilm yn unigryw iawn, a gwell mewn rhai ffyrdd hefyd, yn y teimlad bod Russell wirioneddol ar ben ei hun o’r cychwyn i’r diwedd.”
Her arall oedd yn wynebu’r criw ffilmio, a Russell Bentley sydd ofn tywyllwch, oedd prinder golau dydd.
“Rydyn ni’n sôn am tua wyth awr o olau dydd mewn sialens lle’r oedd o’n cymryd dros ugain awr i’r chwblhau.”
‘Bywyd yn fyr’
Ar ôl y dangosiad cyntaf yng NghellB ym Mlaenau Ffestiniog nos Sadwrn nesaf (Mawrth 5), mae Huw Erddyn yn gobeithio y caiff y ffilm ei dangos mewn gwyliau ffilm.
“Y gobaith wedyn fydd rhoi’r ffilm mewn i wyliau ffilm gwahanol rownd Prydain, ac o bosib Ewrop a’r byd, os geith o ei dderbyn, a gweld sut mae’n gwneud,” meddai.
“Yn yr hirdymor, unwaith fydd o wedi bod mewn film festivals gwahanol, fyddan ni’n ei roi o fyny i’w brynu a’i rentu ar-lein.”
Bydd yr elw o’r dangosiad cyntaf yn CellB ym Mlaenau Ffestiniog yn mynd tuag at Gronfa Goffa Chris Smith, ffrind da a rhedwr mynydd Tîm GB o Orllewin Sussex a fu farw o hypothermia wrth redeg mynyddoedd yr Alban yn 2020.
“Roedd Chris bob amser yn hapus ac roedd ganddo amser i bobl ond roedd yn rhedwr angerddol iawn ac yn athletwr gwych. Roedd yn un o’r unigolion prin hynny,” meddai Russell Bentley.
“Fo ydi’r rheswm yn y bôn am y stori yma – fyddwn i ddim wedi gwneud hyn ac wedi mynd allan oni bai amdano fo.
“Cefais i fy ysgwyd yn arw gan ei farwolaeth ond mi wnes i feddwl, mae bywyd yn fyr, mae gen i antur ar garreg fy nrws ac mi ddylwn roi’r gorau i fod yn llwfrgi a mynd amdani – pwy a ŵyr pryd y gallai popeth fod drosodd!”