Mae ffilmiau Cymraeg ar gael i’w gwylio am y tro cyntaf ar Amazon Prime Video.
Mae’r ddwy ffilm antur, 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig, wedi eu cynhyrchu gan Gwmni Da o Gaernarfon, ac wedi eu cyfarwyddo gan Huw Erddyn, o Gaernarfon.
Byddan nhw ar gael i’w wylio ar Amazon Prime Video o heddiw ymlaen (dydd Iau, Tachwhedd 12).
Mae’r ddwy ffilm yn dilyn y rhedwr marathon a’r anturiaethwr, Huw Brassington, wrth iddo fentro i wneud dau o’r heriau corfforol anoddaf sydd gan Gymru i’w cynnig.
Yn 47 Copa, mae Huw yn ceisio gorffen y Rownd Paddy Buckley, her ble mae rhedwyr yn ceisio dringo i gopa 47 mynydd yn Eryri dros gyfnod o 24 awr.
Ac mae Ar Gefn y Ddraig yn dilyn Huw wrth iddo redeg yn y ras mynydd pum diwrnod anoddaf yn y byd, Ras Cefn y Ddraig, sydd yn ymlwybro 315km o’r Gogledd i’r De.
Mae 47 Copa yn ffilm S4C gafodd ei lansio yn 2019 er mwyn arddangos cynnwys gwreiddiol o Gymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac ymestyn cyrhaeddiad yr iaith Gymraeg ar draws y byd.
“Ffantastig i weld cynnwys iaith Gymraeg ar blatfform fel Amazon Prime”
“Roedd y ffilmiau yma yn hynod heriol i’w saethu ar adegau, ond yn bleser pur i weithio arnyn nhw,” meddai Huw Erddyn o Gwmni Da.
“Mae Eryri yn lleoliad perffaith i anturiaethwyr ym Mhrydain a thu hwnt, felly mae cael y cyfle i greu ffilmiau iaith Gymraeg efo’r tirwedd yna fel cefndir, wedi bod yn wych.
“Mae’n ffantastig i weld cynnwys iaith Gymraeg ar blatfform fel Amazon Prime.”
“Hynod o falch”
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Rydan ni’n hynod o falch i weld ein brand S4C Original yn ymestyn ei gyrhaeddiad wrth i’r byd fwynhau cynnwys unigryw o Gymru ym mhob genre.
“Mae’r ffordd rydym yn gwylio rhaglenni yn newid ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i arddangos ein cynnwys Cymraeg safonol i weddill y byd.”