Eistedd wrth ymyl y lle tân ydy “lle hapus” yr artist sy’n byw gyda’i gŵr, Michael, a thri o blant ym mhentref Bontfaen, ger Machynlleth… 

Tŷ Gwyn

Fe wnaeth fy Nhad-yng-nghyfraith brynu Tŷ Gwyn yn 1999 mewn ocsiwn. Doedd neb wedi byw yma ers blynyddoedd, dim ond tair wal a tho oedd yma, felly fe wnaeth o adnewyddu’r lle ymhell cyn i ni symud yma ddeng mlynedd yn ôl. Roedden ni’n byw yng Nghaerdydd ar y pryd a heb ystyried y posibiliad o fyw yma.

Ges i a Michael ein magu yn yr ardal, ac felly roedd y penderfyniad i symud yn ôl ar ôl cyfnod i ffwrdd yn un naturiol iawn. Doedden ni ddim yn siŵr lle roedden ni am fyw, ond pan ddaeth symud i Tŷ Gwyn yn opsiwn, doedden ni methu aros i ddychwelyd i’r ardal. Wnes i gwympo mewn cariad gyda’r lle yn syth gan ei fod ynghanol nunlle, ynghanol coed, a thawelwch llwyr.

Trawsnewid

Roedd y tŷ fel newydd pan symudon ni fewn gan bo fy Nhad-yng-nghyfraith wedi ei adnewyddu yn llwyr. Ar ôl cael y plant, penderfynon ni y byddai cael estyniad yn ddefnyddiol i gael mwy o le ond, yn fwy na dim, i wneud y gorau o’r golygfeydd a’r golau sydd yma. Doedd y tŷ fel oedd o ddim yn wynebu’r olygfa anhygoel sydd gynnon ni, ac roedd y ffenestri yn fach fel byddai hen ffermdai/bythynnod, felly rydyn ni wedi cynnwys llawer iawn o wydr a drysau mawr sy’n agor i’r ardd o’r estyniad. Mae gallu eistedd yng nghynhesrwydd y tŷ gyda’r bifolds ar agor, yn edrych ar y tywydd neu’r sêr, wir yn arbennig.

Fe gynlluniodd Michael yr estyniad newydd ar raglen gyfrifiadur, felly roedden ni’n rhydd i gael yn union beth oedden ni angen heb orfod cael sgyrsiau a thrafodaethau nôl a mlaen. Bydden ni’n ei gynllunio ar y soffa efo glasied o win! Gawson ni lawer iawn o help gan saer lleol, Dewi Henllan, oedd yn wych yn ei waith ac yn ddibynadwy. Fe wnaeth Michael a’i Dad y rhan fwyaf o’r gwaith oedd Dewi ddim yn gallu gwneud.

Dw i wrth fy modd bod hanner y tŷ yn hen ac fel bwthyn – mwy clyd, a hanner y tŷ yn olau efo dodrefn newydd. Y gorau o’r ddau fyd. Ryden ni’n dod i’r hen stafell fyw at y tân pan mae hi’n dywyll ac oer a dw i wrth fy modd wrth y tân, happy place go-iawn.

Lliwiau

Mae lliwiau a bod yn gyfforddus yn hollbwysig i mi. Dw i ddim yn un am edrych ar trends yn ormodol, dw i’n eitha’ pendant gyda beth dw i’n hoffi a beth dw i ddim yn hoffi, felly wna i yn bendant ddim prynu rhywbeth achos ei fod yn ffasiynol. Mae gen i hen ddodrefn a dodrefn newydd, ac mae’r pethau bach (ornaments) sydd gen i, i gyd yn golygu rhywbeth i fi – pethau dw i wedi casglu o fod yn teithio, yn anrhegion neu’n bethau sydd wedi dod o’r teulu. Y blodau sych sydd yn hongian ydy fy mlodau priodas ers deng mlynedd yn ôl, ac maen nhw dal fyny. Dw i hefyd wedi defnyddio lampshades dw i wedi’u gwneud uwchben y bwrdd bwyd ac ar y lampau bach.

Artist 

Dw i’n ffodus iawn i fod yn ffrind i Gwerfyl Owen sy’n rhedeg cwmni Dylunio dy Dŷ. Pan rydw i’n crafu pen neu’n methu gweld heibio rhyw gynllun, mae hi’n barod bob amser i roi cyngor. Fe ddaeth hi yma pan oeddwn yn crafu pen gyda chynllun y gegin, ac roedd hi’n gallu deud wrtha i yn syth beth fyddai’r layout gorau, a’r rheol o gael y sinc, y ffwrn a’r oergell mewn triongl sy’n hawdd eu cyrraedd.

Fel artist, dw i’n aml yn edrych ar waith artistiaid eraill, yn sylwi ar liwiau a phatrymau, ac felly mae hyn i gyd yn ddylanwad pan mae’n dod at greu awyrgylch a gofod sy’n gyfforddus, cysurus a deniadol i’r llygad. Dw i wrth fy modd yn gosod ornament, yn symud planhigion a dod o hyd i bethau sy’n edrych yn ddeniadol gyda’i gilydd. Fel rhyw fath o arddangosfeydd bach ym mhob cornel! A galla i ddim dioddef clutter, er mae’n bwysig cael man i osod pethau random i allu eu sortio nhw wedyn.

Eliffant

Mae gen i eliffant bach brass sydd wedi dod i mi ar ôl i Nain farw. Pan o’n i’n blentyn, eliffantod oedd fy hoff anifail a chefais fy nhynnu at y peth bach tlws yma yn syth. Mae’r eliffant yn cadw cwmni i fi yn y gegin.

Mae gen i ambell i ddarn wedi ei gomisiynu gan [y grefftwraig] Buddug – un yn llun wedi ei greu gydag un o doilies Nain, a phennill gan y diweddar Dafydd Wyn, oedd yn byw ar y ffarm drws nesaf i ni pan oeddwn yn byw yn Aberangell. A dw i wrth fy modd gyda’r Deco Shop ym Machynlleth ac yn hoffi cefnogi siopau lleol.

Cartref

Mae cartref i fi yn rhywle cysurus, cynnes, gyda llefydd defnyddiol, lle i bopeth a phopeth yn ei le, a dim gormod o “stwff”. Dw i’n ymlacio’n llawer gwell mewn gofod taclus a threfnus.

Ein stafell wely ydy fy hoff stafell. Dyma’r unig stafell heb deganau a gormod o stwff, a gyda’r ffenest fawr does yna nunlle gwell i gael paned yn y bore! Wnaethon ni greu wal bren tu ôl i’n gwely gyda hen floorboards, a dw i wrth fy modd efo’r effaith – mae’n rhoi teimlad earthy i’r stafell sy’n ei wneud yn lle hyfryd i fod.

Dw i hefyd yn hoff iawn o’r un gadair gyfforddus sydd yn y gegin, mae’n lle da i gael sgwrs wrth goginio.

Cyngor

Wrth gynllunio gofod, mae’n bwysig mynd gyda dy reddf, cynllunio o gwmpas hynny, ond cael cyngor cyn mynd ati i adeiladu rhag ofn bod pethau amlwg ti heb ystyried. Mae trafod cynlluniau gyda theulu a ffrindiau wedi bod yn werthfawr i allu ystyried eu sylwadau. Ond, ar ddiwedd y dydd, ti sy’n byw yna felly os wyt ti’n bendant gyda dy syniadau, paid ag oedi i fynd amdani!