Bydd unrhyw un sy’n gobeithio darllen nofel newydd Llwyd Owen, Rhedeg i Parys, er mwyn cael “dos o realiti” yn cael eu siomi, yn ôl yr awdur o Gaerdydd.
Unwaith eto, cawn ein tywys ar daith igam ogam o Fynydd Parys yn Amlwch, Môn, i fyd tywyll y dref ddychmygol, Gerddi Hwyan, i gyfarfod â’r blismones Sally Morris, un o nifer o gymeriadau ymylol ei nofel Pyrth Uffern, sy’n ymddangos unwaith eto yn y nofel newydd.