Mae gan bawb sydd wedi treulio dipyn o amser yng Nghymru ryw gysylltiad â’r A470, yn ôl golygydd cyfrol ddwyieithog newydd o farddoniaeth.

Yn ôl Sian Northey, sydd wedi cydolygu A470: Poems for the Road / Cerddi’r Ffordd gyda Ness Owen, mae yna rywbeth yn dod i feddwl pawb wrth glywed enw’r ffordd a dyna un rheswm dros benderfynu ar thema’r gyfrol.

Mae’r gyfrol, sy’n cael ei chyhoeddi heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Mawrth, Mawrth 1), yn cynnwys cerddi gan feirdd megis Tudur Dylan Jones, Llŷr Gwyn Lewis, Haf Llewelyn, Osian Owen a Simon Chandler, ac mae pob cerdd i’w gweld yn Gymraeg a Saesneg.

Gan gysylltu’r de a’r gogledd, mae’r A470 yn pasio parciau cenedlaethol, coedwigoedd, mynyddoedd, traethau, atomfeydd, chwareli, awyrennau rhyfel dros 186 milltir… ac mae pynciau’r cerddi llawn mor amrywiol, meddai Sian Northey.

Pam dewis yr A470 fel thema, felly?

“Sbario cyfieithu’r teitl yn un peth! Go iawn… roedd o’n tynnu hwnna oddi yna, mae o’n help mawr,” meddai Sian Northey wrth golwg360.

“Hefyd, mae gan bawb yng Nghymru, neu sydd wedi treulio dipyn o amser yng Nghymru, ryw deimlad neu gyswllt efo’r ffordd neu ryw ddarn o’r ffordd.

“Os fysa chdi’n dweud ‘A470′ wrth rywun, mae mwy neu lai pawb yn gwybod am be’ ti’n sôn.

“Maen nhw’n dweud rhywbeth yn syth… un ai eu bod nhw’n ei chasáu hi, neu eu bod nhw wrth eu boddau efo hi, neu’u bod nhw’n licio’r caffi yna.

“Mae yna rywbeth yn dod i feddwl pawb, bardd neu beidio.

“Mae’r cerddi eu hunain yn sôn am bopeth, o gariad, ffeindio oen wedi marw ar ochr ffordd, hippopotamus dychmygol…

“Mae yna rai cerddi wedi’u lleoli mewn llefydd hollol benodol ar y ffordd, ac mae yna rai eraill yn sôn am y ffordd yn ei chyfanrwydd.”

Cyfieithu cerddi

Roedd y wasg, Arachne Press yn Llundain, yn awyddus i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth ddwyieithog, ac yn dilyn galwad agored am gerddi Cymraeg neu Saesneg, cafodd 51 o gerddi eu cyfieithu o’r naill iaith i’r llall.

Daw Ness Owen, y cyd-olygydd, o Ynys Mon, a chafodd casgliad o’i cherddi ei gyhoeddi gan Wasg Arachne yn 2019.

“Mae Ness [Owen] yn sgrifennu yn Saesneg ar y cyfan, roedd hi wedi cyhoeddi cyfrol o’r enw Mamiaith,” eglura Sian Northey.

“Mae yna gwpwl o gerddi Cymraeg yn honno, ac roeddwn i wedi cyfarfod Ness ac fe wnaeth hi ofyn i fi sbïo arnyn nhw.”

Sylweddolodd Cherry Potts, cyfarwyddwr y wasg, drwy hynny, fod y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn “gymhleth”, a’i syniad hi oedd y gyfrol.

“Roedden ni’n gwahodd pobol i yrru cerddi mewn – mae hynny’n wahanol i be’ sy’n digwydd yn Gymraeg ar y cyfan. Roedd hon yn alwad agored,” meddai Sian Northey.

Sian Northey

Sian Northey a Ness Owen oedd yn bennaf gyfrifol am y cyfieithiadau, gydag ambell gyfieithiad gan Siôn Aled, y beirdd eu hunain, ac eraill.

Mae’r broses o greu cyfrol o farddoniaeth ddwyieithog wedi bod yn “ddifyr iawn”, meddai Sian Northey.

“Mae o wedi cael ymateb da. Dydy hynny ddim cweit yn dweud y dylai pawb ei wneud o o hyd, hyn a hyn o weithiau fedri di wneud hyn a bod o’n newydd a bod gan bobol ddiddordeb.

“Ond mae o wedi bod yn braf i bobol fysa ddim yn cael eu gwaith wedi’i gyfieithu fel arfer.

“Y tueddiad efo beirdd Cymraeg ydy mai’r rhai sydd wedi sefydlu sy’n cael eu sefydlu i Saesneg, ac ychydig iawn o gyfieithu o Saesneg i Gymraeg sydd yna.

“Mae o wedi ‘nharo i fod pobol yn emosiynol o weld eu cerddi wedi’u cyfieithu i Gymraeg.

“Mae yna un bardd, roedd o wedi ysgrifennu’n Saesneg a’i gerdd o wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg.

“Fe wnaeth ei dad ei darllen hi’n uchel, a dyna’r tro cyntaf iddo fo glywed ei dad yn darllen cerdd yn Gymraeg.”

Dathlu’r ddwy iaith

Mae’n fwriad i’r gyfrol fod yn ddathliad o fawredd y ddwy iaith, a gwaith celfydd beirdd a chyfieithwyr, meddai’r wasg.

Bydd A470: Poems for the Road / Cerddi’r Ffordd yn cael ei lansio mewn digwyddiad ar-lein ar Ddiwrnod y Llyfr (Dydd Iau, Mawrth 3) am 7yh, gyda darlleniadau gan sawl bardd.

“Rydyn ni wedi rhoi’r dewis cyntaf i’r beirdd sy’n darllen yn hwnnw i’r beirdd o du allan i Gymru, neu fysa, am ryw reswm arall, yn ffeindio hi’n anodd dod i ryw ddigwyddiad go iawn wnawn ni.”

Bydd Adele Evershed, Cas Stockford, Ness Owen, Sian Northey, Angela Graham, KS Moore, Rae Howells, Becky Lowe, Siôn Aled, David Mathews, Seth Crook, Simon Chandler, a Sammy Weaver yn cymryd rhan yn y lansiad dwyieithog, rhad ac am ddim.

Fis Ebrill, bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Soar ym Merthyr Tudful, gyda darlleniadau dwyieithog gan y beirdd a meic agored.

Bryd hynny (Ebrill 23 am 2yh), bydd Nicholas McGaughey, Des Mannay, Gareth Writer-Davies, Sian Northey, Matthew MC Smith, Mike Jenkins a David Mathews, a Sara Louise Wheeler a Becky Lowe o bosib, yn cymryd rhan.

Fis Gorffennaf, bydd darlleniadau yn cael eu cynnal yn The Poetry Pharmacy yn Bishops Castle yn Swydd Amwythig hefyd.