Bydd gweithiau gan feirdd ac artistiaid o Fietnam a Chymru a gafodd eu creu yn ystod cyfnewidfa ddigidol yn ymddangos ar-lein yr wythnos hon.
Daeth deg bardd ac artist benywaidd neu anneuaidd o’r ddwy wlad ynghyd dros gyfnod o dri mis, a ffrwyth y rhaglen yw arddangosfa Ù Ơ | SUO: A Poetry Showcase.
Mae enw’r prosiect yn adlewyrchu seiniau hwiangerddi sy’n cael eu canu yn Fietnam a Chymru, ac roedd yn fan cychwyn i’r artistiaid a’r beirdd gydfyfyrio ar darddiad iaith farddonol a throsglwyddiad iaith a chof o fewn teuluoedd.
Yn ystod y sesiynau, buodd deg cyfranogwr yn arbrofi gyda gwahanol fathau o gyfieithu rhwng ieithoedd a ffurfiau celf gan greu gwaith megis cerddi yn ymateb i gerddi, testunau teirieithog Cymraeg, Saesneg a Fietnameg, peintio neu ddarlunio cerddi, a cherddi fideo.
Bydd canlyniadau’r gweithdai, a gafodd eu trefnu gan Wasg AJAR a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, yn cael eu harddangos yn ddigidol a thrwy weithgareddau amlgyfrwng yn ystod yr wythnos hon.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys sgwrs gyda Menna Elfyn a’r awdur Trần Thị NgH, gan edrych ar eu teithiau creadigol yng nghyd-destun ehangach gwleidyddiaeth a diwylliant cenedlaethol.
Bydd y ddwy yn cynnig safbwyntiau ar ysgrifennu a byw fel llenorion benywaidd, ac yn edrych ar bwysigrwydd cyfieithu i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
Cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg
Dywed Rae Howells, bardd, newyddiadurwraig, a ffermwr lafant o Abertawe, ei fod wedi bod yn gyfle iddi ddefnyddio ei Chymraeg.
“Roedd yn rhaid i mi edrych ar Gymru trwy lygad rhywun o’r tu allan, i fod yn dywysydd rhithiol ac i egluro’r pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol am ein hanes, a’n hiaith. Fe wnaeth hynny wir wneud i mi weld Cymru mewn ffordd wahanol,” meddai.
“Rwyf wedi bod ar daith nid yn unig â fy ngramadeg, ond hefyd â’m tafodiaith, y dafodiaith rwy’n ei chofio o fy mhlentyndod, gan fy mam-gu a thad-cu.
“Rwy’n defnyddio fy Nghymraeg llawer mwy yn fy mywyd bob dydd hefyd.”
Mae’r actores Rhiannon Oliver o Gaerdydd hefyd wedi gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn rhan o’r prosiect.
“Mae wedi bod yn brofiad hynod werthfawr i mi fel bardd mwy newydd,” meddai.
“Dyma’r tro cyntaf erioed i mi weithio gyda grŵp o feirdd, felly rwy’n teimlo cysylltiad â chymuned nad wyf wedi bod yn rhan ohoni o’r blaen, yng Nghymru ac wrth gwrs yn Fietnam”
‘Profiad gwerthfawr’
Dywed y bardd a’r cyfieithydd Nguyễn Lâm Thảo Thi ei bod hi wedi gwerthfawrogi’r cyfnewid gyda’r awduron Cymreig.
“Rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi cael y gofod a’r amser i ddarllen gwaith pobl eraill, i glywed safbwyntiau pobl eraill. Roedd cael cipolwg ar eich byd chi yn brofiad adfywiol a gwerthfawr iawn,” meddai.
“Yr effaith a gafodd y prosiect arna i oedd i mi ailfeddwl fy Fietnameg a fy Saesneg, a hefyd ceisio camu i’r anhysbys – y teimlad hwnnw o nesáu at iaith nad ydych chi’n ei hadnabod, “meddai Thu Uyên o Hanoi.
“Roedd yn brofiad diddorol iawn.”
Sîn gelfyddyd gyfoes
Dywed Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, fod yr holl gyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r “cyfle i gydweithio yn rhithwir ar adeg pan nad oedd teithio’n bosibl ac i rai, ysbrydolodd y prosiect hyder newydd i weithio’n ddwyieithog”.
“Llwyddodd y beirdd a’r artistiaid Cymreig i gyflwyno Cymru fel gwlad ddwyieithog gyda thraddodiad barddoniaeth gyfoethog a sîn gelfyddyd gyfoes fywiog ar lwyfan rhyngwladol,” meddai.