Cafodd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022 ei lansio mewn digwyddiad rhithiol ar Ddydd Gŵyl Dewi yng nghwmni enillydd y llynedd.

Ar gyfer y gystadleuaeth, mae modd i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu’r Gymraeg ac sydd bellach yn rhugl yn yr iaith ymgeisio, neu gael eu henwebu gan unigolyn arall.

Gyda’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio neu gynnig enwebiad ar Fai 1, bydd rhestr hir yn cael ei llunio ar gyfer y rownd gyn-derfynol ym mis Mehefin, a fydd yn cael ei chynnal yn rhithiol.

Yna, fe fydd y rhestr fer yn cael ei llunio ar gyfer y rownd derfynol ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst, gyda’r seremoni ar lwyfan y pafiliwn ar nos Fercher yr ŵyl (Awst 3).

Y beirniaid ar gyfer y rownd derfynol eleni fydd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, cyflwynydd Radio Cymru Geraint Lloyd, a’r Prifardd Cyril Jones.

‘Dathlu cyfraniad siaradwyr newydd’

Caiff cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ei chyd-drefnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn gyfle i ddathlu cyfraniad siaradwyr newydd i’r Gymraeg, gan roi dysgwyr wrth galon un o ddigwyddiadau pwysica’r iaith, yr Eisteddfod Genedlaethol,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

“Mae’r gystadleuaeth yn denu unigolion eithriadol, sydd wrth eu boddau yn siarad y Gymraeg ac sy’n ysbrydoli eraill i ddysgu ein hiaith.

“Mae’r Ganolfan yma i groesawu a chefnogi pawb sy eisiau dysgu Cymraeg, ac mae gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn creu cyfleoedd i’n dysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg.”

‘Ewch amdani’

Mae cyn-enillwyr Dysgwr y Flwyddyn yn hanu o bob cwr o Gymru, Lloegr, ac mor bell â’r Ariannin, tra bod cystadleuwyr o bedwar ban byd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Daw’r enillydd yn yr Eisteddfod AmGen y llynedd, David Thomas, o Dalog yn Sir Gaerfyrddin, ac mae’n rhedeg cwmni Jin Talog gyda’i ŵr, Anthony.

Mae David wedi cael blwyddyn brysur yn mynychu digwyddiadau a gwneud cyfweliadau yn sôn am ei brofiadau o ddysgu’r iaith a dod i’r brig yn y gystadleuaeth boblogaidd.

Cafodd ei wahodd i gymryd rhan mewn bore coffi ar Ddydd Gŵyl Dewi ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 1), a gafodd ei drefnu yn rhan o ŵyl ddarllen Amdani y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Roedd ennill y wobr yn golygu cymaint i fi’n bersonol,” meddai David Thomas.

“Dw i wrth fy modd mod i’n gallu siarad yr iaith, ac roedd e’n anrhydedd cael fy enwebu, heb sôn am ennill.

“Ces i fy ysbrydoli gan enillwyr eraill dros y blynyddoedd, oedd yn ‘dangos y ffordd’, ac ro’n i’n benderfynol o wneud yn siŵr bod fy mlwyddyn fel Dysgwr y Flwyddyn yn cyfri.

“Dw i wedi mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau rhithiol ym mhob rhan o Gymru.  Dw i wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd dros y flwyddyn, sy’n adleisio’r profiadau cadarnhaol dw i wedi’u cael wrth ddysgu’r iaith.

“Dw i’n annog dysgwyr eraill sydd, fel fi, wedi cael hwyl enfawr yn trawsnewid eu bywydau trwy ddysgu Cymraeg, i fynd amdani gyda’r gystadleuaeth eleni.

“Pob lwc i bawb!”

Perchennog cwmni jin yw Dysgwr y Flwyddyn 2021

Dysgu Cymraeg wedi bod yn “brofiad anhygoel” sydd wedi trawsnewid bywyd David Thomas, a’i “newid fel person”

“Rydw i’n teimlo fy mod wedi adennill fy etifeddiaeth fel Cymro”

Barry Thomas

“Mae dysgu’r iaith wedi trawsnewid fy mywyd. Mae’r iaith Gymraeg yn docyn mynediad i’r holl ddiwylliant Cymraeg”

David Thomas ac Anthony Rees

Bethan Lloyd

Cyfuno’r hen a’r newydd oedd y gamp i’r ddau sydd wedi sefydlu cwmni Jin Talog yn hen ffermdy Rhyd-y-Garreg Ddu