Y gŵr 52 oed, David Thomas, yw Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni. Yn hanu o Gaerdydd, mae yn byw ar fferm ym mhentref Talog yn Sir Gaerfyrddin. Sefydlodd gwmni Jin Talog gyda’i ŵr, Anthony…
Sut mae hi’n teimlo i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn?!
Yn rhyfedd, pan ges i wybod fy mod wedi ennill, roeddwn yn delifro jin yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro, a doedd y peiriant tocyn yn y maes parcio ddim yn gweithio.
Ac ar yr un pryd ges i’r e-bost ar y ffôn yn dweud fy mod i wedi ennill, a doeddwn i ffili credu.
Roedd cael y seremoni cyhoeddi yn stiwdio Radio Cymru yng Nghaerdydd, yn hollol briodol, mewn ffordd – dod nôl i Gaerdydd, dinas fy ngeni, i gael y wobr.
Mae fy nheulu wedi bod mor gefnogol a hapus wedi i mi ennill, rydw i wedi cael gymaint o gardiau a photeli o shampên.
Pam mynd ati i ddysgu Cymraeg?
Ro’n i wastad wedi bwriadu dysgu’r iaith rhyw ddiwrnod, ond mae amser yn mynd heibio…
Y bwriad oedd dychwelyd i Gymru, ar ôl treulio blynyddoedd yn Llundain.
Felly roedd dychwelyd yn 2016 yn ysgogiad i fynd ati…
Beth mae’n golygu i ddod yn rhugl?
Rydw i’n teimlo fy mod wedi adennill fy etifeddiaeth fel Cymro.
Yn ystod y cyfnod clo fues i’n ymchwilio i fy achau, a darganfod bod bron pob un o fy nheulu yn siaradwyr Cymraeg hyd at 1900 – pobol o Sir Fynwy, Sir Frycheiniog, a Sir Gaernarfon.
Mae dysgu siarad Cymraeg yn rhyw fath o wneud yn iawn am ein bod ni fel teulu wedi colli’r iaith.
O le ddaeth y syniad ar gyfer Jin Talog?
Ryden ni yn hoff iawn o jin a’r bwriad oedd creu jin newydd gyda blas merywen amlwg.
Roedden ni moyn creu jin i bobol sy’ wir yn hoffi jin clasurol, sydd â hunaniaeth gyfoes Gymreig hefyd.
A chael hunaniaeth ddwyieithog i’r cwmni hefyd, gyda phopeth yn ddwyieithog – y labeli, y marchnata, a’r wefan.
Pwy sy’n prynu’r jin?
Cymry gan fwyaf. Ryden ni yn ei gyflenwi i westai, bwytai a siopau ledled Cymru, ac yn enwedig y de orllewin.
Hefyd mae pobol o dros y ffin sydd wedi blasu ein jin mewn gwestai neu fwytai tra yma ar wyliau yn ei brynu.
A phan ryden ni’n hala’r jin i Loegr, ryden ni’n rhoi cardiau Cymraeg yn y blwch… er nad ydyn nhw yn deall yr iaith, maen nhw yn gallu gweld bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth byw.
Hefyd mae pobol o Gymru eisiau anfon jin i ffrindiau dramor yn Awstralia, Canada, UDA a’r Iseldiroedd.
Wnaeth y galw am jin gynyddu yn y cyfnod clo?
Heb os!
Fe dyfodd y galw yn syfrdanol. Er bod y diwydiant lletygarwch wedi cau lawr, aeth pawb at y We i brynu ar-lein, a werthon ni filoedd o boteli.
Beth fuoch chi’n ei wneud yn Llundain?
Roeddwn i yn arfer rhedeg ysgolion rhyngwladol yn Llundain a’r Dwyrain Canol, yn Qatar a’r UAE.
Beth yw eich atgof cynta’?
Mynd gyda fy rhieni yn y car gyda’r nos i weld y goleuadau Nadolig yng Nghaerdydd.
Roeddwn i yn gwisgo pyjamas a dan flanced yn yfed siocled poeth yn y car, ac roedd e mor gyffrous cael bod lan yn hwyr.
Beth yw eich ofn mwya’?
Salwch yn y teulu.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Mae’r gwaith ar y fferm yn helpu i gadw yn heini, ac mae’r poteli jin yn eithaf trwm!
Ryden ni’n eitha’ prysur rhwng pobol yn galw yma i brynu jin, a phobol yn archebu ar-lein, dywedwch, am naw’r nos ac yn gofyn am gael y jin y diwrnod wedyn.
Ryden ni yn hoffi ymdrin â’n cwsmeriaid yn bersonol, ac i fod yn onest, mae’r busnes wedi cymryd ein bywydau ni drosodd.
Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?
Y sws gyntaf gydag Anthony y gŵr.
Wnaethon ni gyfarfod ar-lein pan oedden ni’n dau o Gymru ac yn byw yn Llundain.
Roedd yn gyd-ddigwyddiad enfawr. Mae e’n dod o Lanelli.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Y nofelydd Margaret Atwood; Gwynfor Evans, arwr Cymru; a Grace Jones.
Bydde’r sgwrs yn amrywiol iawn!
Roedd yna westy yn Qatar yn gweini corgimychiaid pinafal gyda saws hoisin, a dyna fydden ni yn cael i ddechrau.
Wedyn cyri pysgod a reis wedi’i goginio gan Anthony’r gŵr, achos mae e’n gwneud cyris aruthrol iawn.
A Black Forest Gateaux i bwdin. Retro!
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
‘Llwyd! Paid!’ – Llwyd ydy enw fy nghi cockerspaniel, ac mae e’n anwybyddu gorchmynion yn Saesneg a Chymraeg, felly mae e’n ddwyieithog iawn!
Beth yw eich hoff wisg ffansi?
Casáu gwisg ffansi… petawn i yn cael fy ngwadd i barti gwisg ffansi, bydden i byth yn mynd.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Pan wnes i ddechrau dysgu siarad Cymraeg, dw i’n cofio CEISIO gofyn i gymdoges a gafodd hi ei geni yn y pentref, ond beth wnes i ofyn oedd a gafodd hi ei chladdu yn y pentref…
Beth yw’r gwyliau gorau i chi fwynhau?
Roedden ni’n arfer teithio i bedwar ban byd. Ryden ni wedi bod i Ogledd Corea.
Ond yr un gorau oedd mynd i Iran ar y trên, o Munich i Terán, trwy Bwlgaria, Hwngari, Gwlad Groeg, Twrci. Profiad anhygoel.
Mae Iran mor hanesyddol, diwylliant Persia yn hynod ddiddorol, a’r bobl mor gyfeillgar.
Doedd dim llawer o dwristiaid yn Iran, felly ble bynnag roedden ni yn mynd, caffi neu beth bynnag, pan roedden ni moyn talu’r bil, roedd rhywun lleol wedi ei dalu yn barod, er mwyn bod yn groesawgar.
Beth bynnag rydych chi’n clywed am lywodraeth Iran, mae’r bobl yno yn hollol wahanol.
Beth yw’r llyfr Cymraeg difyrraf i chi ei ddarllen?
Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros.
Mae e’n llyfr gwych, reit, ond roeddwn i yn arfer darllen nofelau oedd wedi cael eu haddasu i ddysgwyr.
Ond Llyfr Glas Nebo oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i mi ei ddarllen a theimlo fel, ie, dw i wedi deall popeth ac rydw i YN gallu darllen nofelau yn y Gymraeg.
Ac roedd yn deimlad anhygoel, ac mae’r nofel yna wedi magu hyder yndda i i ddarllen pethau eraill.
A beth am gerddoriaeth Gymraeg?
Rydw i’n hoffi Candelas a Kizzy Crawford.
Ond mae e’n anodd i gadw lan gyda phopeth achos mae Sîn Cerddoriaeth Cymru yn tyfu trwy’r amser.
Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?
Am y tro cyntaf, ges i amser i sylwi ar, a gwerthfawrogi, popeth sydd o’n cwmpas ni yn Sir Gâr.
[Cyn y clo] roedden ni mor brysur, yn rhedeg lan i Gaerdydd trwy’r amser, neu yn brysur iawn gyda’r gwaith.
Felly roedd yn gyfle i anadlu a sylweddoli pa mor lwcus yden ni.
Beth sydd wedi rhoi’r mwya’ o bleser, y gwobrau Prydeinig am wneud jin ynteu’r wobr am ddysgu siarad Cymraeg?!
Ennill Dysgwr y Flwyddyn.
Mae dysgu’r iaith wedi trawsnewid fy mywyd. Mae’r iaith Gymraeg yn docyn mynediad i’r holl ddiwylliant Cymraeg, yn farddoniaeth, cerddoriaeth, nofelau. Mae wedi ehangu fy ngorwelion, heb os.