Aeth dwy flynedd heibio ers i Los Blancos ryddhau’r albwm Sbwriel Gwyn, sdoncar sy’n cynnwys caneuon roc ffyrnig byrlymus megis ‘Dilyn Iesu Grist’ ac ‘Ymson Luc Swan’, a baledi tyner, trwm ac epig fel ‘Clarach’ a ‘Datgysylltu’.

Yn briodol reit, fe gafodd y casgliad ei ganmol yn helaeth a’i enwebu ar gyfer gwobr Albwm Gymreig Orau’r Flwyddyn yn 2019.

Felly gwych yw gweld y band talentog yn dychwelyd gydag EP newydd.