Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi strategaeth newydd er mwyn mapio’r defnydd o’r Gymraeg yn y celfyddydau.

Bydd y strategaeth yn cael ei llunio wedi cyfnod o ymgynghori gyda’r sectorau celfyddydol ac ieithyddol i gasglu barn am ba weithredoedd sydd angen eu cyflawni yn y tymor hir.

Yn rhan o hynny, mae rôl newydd Ysgogydd y Gymraeg wedi cael ei ffurfio er mwyn cynnal trafodaethau â nifer o unigolion a sefydliadau ynglŷn â gwahanol agweddau ar yr iaith yn y sectorau celfyddydol.

Mae Cyngor y Celfyddydau yn pwysleisio eu bod nhw eisiau clywed gan bobol di-Gymraeg, yn ogystal â’r rheiny sydd eisoes yn siarad a dysgu’r iaith.

‘Nid llwyfan i gwyno fydd hon’

Einir Sion sydd wedi ei phenodi i rôl Ysgogydd y Gymraeg, ac fe fydd hi’n cynnal nifer o sesiynau trafod dros y misoedd nesaf.

“Mae’n allweddol bod y strategaeth hon yn cael ei llunio mewn modd agored, adeiladol a chyfranogol,” meddai.

“Byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau trafod byrion a fydd yn canolbwyntio ar weithredoedd cadarnhaol yn y celfyddydau.

“Nid llwyfan i gwyno fydd hon ond yn hytrach cyfle i drafod y dulliau gorau ar gyfer creu newidiadau hanfodol.”

Mae dwy sesiwn drafod eisoes wedi cael eu cynnal, a oedd yn “adeiladol a diddorol”, yn ôl Cyngor y Celfyddydau.

Bydd y drydedd yn cael ei chynnal ar ddydd Iau, Mawrth 9, er mwyn trafod rôl y Gymraeg ym maes Celf.

Yn ystod y sesiwn honno, bydd trafodaeth ynglŷn â’r cysyniadau bod ‘Iaith yn gelfyddyd’ a bod ‘celf yn dechrau pan mae iaith yn gorffen’.

Mae gofyn i’r cyfranogwyr ddod ag enghraifft o gelfyddyd sy’n adlewyrchu, trafod neu’n dathlu’r Gymraeg i’r sesiwn, ac mae modd cofrestru ar-lein er mwyn cymryd rhan yn y sesiwn honno.