Mae Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddilyn esiampl Iwerddon a diddymu gofynion fisa i bobol o’r Wcráin.

Dywedodd y byddai hynny yn galluogi Cymru i gyflawni ei “huchelgais o fod yn genedl noddfa”.

Does gan Lywodraeth Cymru ddim pŵer datganoledig dros fewnfudo, ac felly mae faint o bobol y mae modd i Gymru gynnig lloches iddyn nhw yn ddibynnol ar bolisi San Steffan.

Ar hyn o bryd, mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i unrhyw berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig i ddod ag aelodau teulu o’r Wcráin i’r wlad ar unwaith.

Mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn nodi lle nad yw aelodau o deulu yn y Deyrnas Unedig yn bodloni’r meini prawf – ond yn pasio gwiriadau diogelwch – byddan nhw’n cael caniatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig y tu allan i’r rheolau am 12 mis.

Yn y cyfamser, mae’r Undeb Ewropeaidd yn cynnig fisa tair blynedd i unrhyw un sy’n ffoi o’r rhyfel yn yr Wcráin, tra bod Iwerddon wedi diddymu holl ofynion fisa i bobl o’r Wcráin am dair blynedd.

‘Cenedl noddfa’

“Mae gan Gymru uchelgais o fod yn genedl noddfa,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae ein cymdogion yn Iwerddon wedi diddymu’r holl ofynion fisa am dair blynedd.

“Pam nad yw e’n caniatáu i ni gynnig yr un croeso dyngarol?”

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson ei fod yn “credu bod y trefniadau sydd gennym ni yn rai digonol”.

“Fe fyddan nhw’n hael, ac maen nhw eisoes yn hynod o hael,” meddai.

“Dw i’n credu y dylai’r Tŷ fod yn falch iawn o’r hyn mae’r Deyrnas Unedig eisoes wedi’i wneud i helpu pobol fregus.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi cynnig lloches i fwy o bobol sy’n ffoi rhag rhyfel nag unrhyw wlad arall yn Ewrop ers 2015.”

Cymeradwyaeth i Lysgennad Wcráin

Yn gwylio hyn oll yn yr oriel uwch ben y siambr oedd Llysgennad Wcráin, Vadym Prystaiko.

Ar ddechrau’r sesiwn safodd holl siambr Tŷ’r Cyffredin i’w gymeradwyo wrth iddo gymryd ei sedd.

Wrth annerch Vardym Prystaiko cyfeiriodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, at y ffaith nad yw aelodau seneddol “yn gyffredinol yn caniatáu cymeradwyaeth yn y siambr”.

“Ond rwy’n credu y tro hwn fod y Tŷ am ddangos ein parch a’n cefnogaeth i’ch gwlad a’i phobol ar yr adeg anodd hon,” meddai.