Mae awdurdod lleol Casnewydd wedi cadarnhau’r cynlluniau ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg yn y ddinas.
Cafodd y strategaeth bum mlynedd, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar addysg, ei chymeradwyo yng nghyfarfod llawn Cyngor Dinas Casnewydd ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Daeth hynny er gwaethaf ymateb negyddol mewn ymgynghoriad cyhoeddus i’r iaith yn gyffredinol.
O’r 600 o gyfranwyr, fe wnaeth 55% ddweud nad oedden nhw’n gweld pwrpas mewn dysgu Cymraeg.
Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth y llynedd, roedd nifer y siaradwyr yn y ddinas hefyd yn is na’r cyfartaledd Cymreig, gyda dim ond 20.3% yn siarad yr iaith o’i gymharu â’r 29.2% cenedlaethol.
Yn y cyfamser, mae disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru hyrwyddo’r iaith fel rhan o’r ymgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Hybu addysg Gymraeg
Gobaith y Cyngor yw gwneud yr iaith yn un y mae trigolion Casnewydd yn gallu ei “gweld, clywed, dysgu, defnyddio a’i charu”.
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Jason Hughes ei fod yn dymuno newid agwedd pobol ynglŷn â’r Gymraeg.
“Byddwn yn dweud wrth bobol ifanc Casnewydd sy’n dysgu Cymraeg – pwy a ŵyr lle wneith y daith honno fynd â chi,” meddai.
Erbyn Medi 2032, mae’r Cyngor yn anelu i gael 11.1% o ddisgyblion ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol gynradd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dim ond 5.1% o holl ddisgyblion y sir sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd, ac mae lleoedd dros ben mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Er mwyn cynyddu’r diddordeb mewn addysg Gymraeg, mae’r Cyngor wedi penodi swyddog penodol.
‘Croesawu uchelgais y Cyngor’
Agwedd arall ar y strategaeth yw cynyddu gwelededd y Gymraeg mewn lleoliadau y tu hwnt i’r gwaith ac ysgolion.
Fel rhan o hynny, mae’r Cyngor wedi cydweithio gyda rhanbarth rygbi’r Dreigiau er mwyn cyflwyno rhaglenni dwyieithog ar gyfer gemau.
Dywedodd Maer Casnewydd, y Cynghorydd John Williams, ei fod yn “croesawu uchelgais y Cyngor ar gyfer yr iaith.”
“I’r rheiny ohonon ni sydd efo teuluoedd a wnaeth fethu â throsglwyddo’r iaith Gymraeg am wahanol resymau, rydyn ni’n gresynu at hynny i raddau gwahanol,” meddai.