Mae trigolion yn y gogledd wnaeth ddioddef difrod i’w tai yn sgil cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru wedi cael eu “hanghofio”, yn ôl y Cynghorydd Elfed Williams.
Daw hyn chwe blynedd ar ôl i’r cynllun tlodi olygu bod rhai tai wedi’u gadael â gwaith atgyweirio angenrheidiol.
Bwriad y prosiect oedd gwella effeithlonrwydd ynni’r tai, gan sicrhau y byddai gan y perchnogion filiau ynni is.
Ond mae Elfed Williams, sy’n cynrychioli ward Deiniolen ar Gyngor Gwynedd, yn dweud bod trigolion ar eu colled yn ariannol, tra bod eraill yn methu fforddio gwaith atgyweirio.
Cefndir
Cafodd y cynllun ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflawni yn ardal Arfon gan gwmni Willmott Dixon, gan ddefnyddio nifer o gontractwyr i osod yr inswleiddiad wal allanol (EWI).
Ers i’r cynllun gael ei gyflawni, mae Willmott Dixon Energy Services Limited (WDES) wedi’i amsugno i gwmni Fortem a’i ailenwi’n Fortem Energy Services Limited.
“Nid yw Fortem Energy Services Limited, fel olynydd i WDES, yn gyfrifol am fethiant y gosodiadau hyn,” meddai Fortem mewn datganiad.
“Fel Rheolwr y Cynllun, cwmpasodd WDES argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol raglenni buddsoddi mewn perfformiad ynni a fyddai’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn lleihau tlodi tanwydd.
“Yna, goruchwyliodd WDES y gwaith o gyflawni a gosod y mesurau hyn gan gontractwyr lleol yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru i greu swyddi gwyrdd yng Nghymru a chafodd pob eiddo a dderbyniodd y mesurau hyn hefyd fudd gwarant 25 mlynedd a gefnogir gan yswiriant gan y contractwr lleol.
“Dylid nodi nad Willmott Dixon yw rhiant Fortem, ac nid oes cysylltiad corfforaethol uniongyrchol bellach rhwng Fortem a Willmott Dixon (er ei fod yn chwaer-sefydliad o fewn yr un grŵp masnachu).”
‘Effeithio ar iechyd a lles’
Un o’r rhai sydd wedi gorfod gwneud gwaith ar ei dŷ ydi Geraint Tomos, o Lôn Las, Deiniolen.
“Dw i’n siomedig iawn gyda’r gwaith ac yn teimlo nad ydi effeithlonrwydd ynni fy nhŷ fi wedi gwella o gwbl,” meddai.
“Dwi wedi cael problemau efo’r cladin newydd ar y tŷ ac efo ansawdd y paent hefyd.
“Roedd dŵr yn treiddio i mewn drwy’r ffenestri ac wrth y to, ac ar ôl i mi fynd i ymchwilio dyma ddallt nad oedd y cladin wedi ei selio, felly roedd dŵr yn treiddio tu ôl i’r cladin ac i mewn i’r waliau.
“Unwaith i mi adfer y gwaith, mi stopiodd y broblem.
“Mae ansawdd y gwaith paent ar waliau tu allan i’r tŷ yn wael, a’r haf yma bydd raid i mi baentio’r tu allan i wella cyflwr y waliau.
“Mae’r holl brofiad wedi bod yn anghynnes. Ond dwi’n teimlo mod i’n weddol lwcus, o’i chymharu â nifer o drigolion eraill yr ardal.
“Mae rhai pobl yn cael trafferth mawr gyda lleithder a llwydni yn eu tai ac mae hynny’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles.”
£2.65m i Ben-y-bont ar Ogwr
Cafodd yr un math o ddifrod ei achosi i dai yng Nghaerau, Pen-y-bont ar Ogwr, o ganlyniad i gynllun gwahanol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.65m o gyllid i’r trigolion hynny allu atgyweirio’r difrod.
“Dw i’n awyddus i ddeall mwy pam bod trigolion tai yng Nghaerau, ger Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £2.65m i unioni’r gwaith yn eu heiddo nhw,” meddai’r Cynghorydd Elfed Williams.
“Unwaith eto, mae’n teimlo fel petai gogledd Cymru yn cael ei anghofio a’i adael ar ôl.
“Siawns os yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r problemau a achoswyd gan y cwmnïau hyn, y dylai pob perchennog cartref sydd wedi eu heffeithio gael eu digolledu ac unioni’r gwaith ar unwaith.
“Mae perchnogion tai yn cael eu diystyru ar ôl ymgymryd â chynllun y Llywodraeth yn ddidwyll, gan wneud eu rhan wrth fynd i’r afael â materion hinsawdd a lleihau biliau ynni eu cartrefi.”
‘Proses hir’
“Erbyn hyn, mae hi’n ymddangos bod yna sefyllfa wahanol rhwng etholwyr i mi yn Arfon ac etholwyr lawr yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wrth golwg360.
“Ac er bod yr etholwyr yn y ddwy ardal wedi cael difrod i’w tai yn sgil dau gynllun gwahanol, yr un ydi’r egwyddor, sef bod pobol wedi rhoi eu ffydd mewn cynllun oedd fod i wella insiwleiddio iddyn nhw a gostwng eu biliau ynni.
“Ac mae rhai o’r etholwyr hynny wedi ffeindio nad ydi’r cynllun gweithio ac yn waeth na hynny, maen nhw wedi gwneud difrod i’w tai nhw o ran tamprwydd, craciau a lleithder ac yn y blaen.
“Mae hi’n sefyllfa anffodus iawn oherwydd mae pobol wedi mynd i mewn i’r cynlluniau yma’n llawn gobaith eu bod nhw’n gwneud lles i’r amgylchedd yn ogystal â lles iddyn nhw eu hunain.
“Dw i wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn trio cael arian yn ôl, neu waith adfer wedi’i wneud ar gyfer fy etholwyr yn Arfon, ac mae yna gynnydd bychan yn digwydd erbyn hyn.
“Ond beth dw i’n feddwl ddylai ddigwydd rŵan ydi bod fy etholwyr yn Arfon yn cael eu trin yn yr un ffordd â’r etholwyr lawr yn y de achos yr un ydi’r broblem, yr un egwyddor ydi hi.
“Mae pobol wedi rhoi ei ffydd mewn cynllun sydd ddim wedi gweithio ac sydd wedi golygu eu bod nhw’n waeth allan.
“Ond eto mae yna arian yn mynd i ddod gan Lywodraeth Cymru i’r rheini yn y de, ond does yna ddim – hyd yma beth bynnag – ddim gwarant tebyg wedi ei roi i etholwyr yn Arfon, ond rydw i’n dal i weithio ar hynny.
“Mae hon wedi bod yn broses hir iawn, mae hi wedi cymryd blynyddoedd i gyrraedd lle’r ydyn ni rŵan.
“Mae hi’n ddyletswydd arna i i barhau i’w cefnogi nhw ac i weithredu ar eu rhan nhw er mwyn iddyn nhw gael tegwch.”
“Gwaith adfer ac iawndal”
Wrth ymateb, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud yw gweithio gyda Fortem Energy Services, rheolwr cynllun Arbed 2, i adolygu sefyllfa’r holl breswylwyr a elwodd o’r inswleiddio waliau allanol a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r broses ar gyfer gwneud iawn lle mae problemau wedi codi.
“Oherwydd yr hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yw sicrhau bod pobl yn cymryd y llwybrau sydd ar i wneud yn iawn am y difrod lle maent yn dal i fod ar gael iddynt.
“Felly, rydym yn sicrhau, lle mae’r cwmni’n dal i fod yno, ac os ydynt ar fai yn y gosodiad, eu bod yn talu am hynny, ac yr un fath â’r gwarantwr.
“Ond i gydnabod sefyllfa trigolion mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig lle nad yw’r cwmni adeiladu a’r gwarantwr ar gael mwyach am eu bod wedi mynd allan o fusnes neu am amrywiaeth o resymau cymhleth eraill, rydym wedi cytuno i weithio gyda’r cynghorau yno i ariannu gwaith adfer ac iawndal.”