Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu cynlluniau “annerbyniol a diangen” Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar y Ddeddf Hawliau Dynol.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth San Steffan wrthi’n ymgynghori ar gynlluniau i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau.

Mae gweinidogion yn llywodraethau Cymru a’r Alban wedi disgrifio’r cynlluniau fel “ymosodiad ar ryddid pobol ar sail ideoleg”.

Mae’r ddwy lywodraeth yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar dystiolaeth cymdeithas sifil a chyfreithwyr, a thynnu eu cynigion yn ôl.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Gweinidogion o Lywodraethau Cymru a’r Alban fod “gennym bryderon difrifol a dwfn ynghylch y cynigion presennol ac ynghylch trywydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y tymor hirach”.

“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn chwarae rôl hanfodol bwysig o ran diogelu hawliau dynol sylfaenol ledled y Deyrnas Unedig. Ers mwy na dau ddegawd, mae wedi sicrhau manteision i aelodau unigol o gymdeithas ac wedi gofalu bod cyrff cyhoeddus yn parchu, yn diogelu ac yn gweithredu hawliau dynol,” medden nhw.

“Mae’r hyn a gyflawnir yn sgil y Ddeddf yn cwmpasu popeth o weithredu ynghylch cydraddoldeb i fenywod i ddiogelu rhyddid mynegiant a’r hawl i brotestio.

“Mae wedi helpu teuluoedd y lluoedd arfog i sicrhau cyfiawnder pan na chawsant eu hawliau, mae wedi helpu i sicrhau cydraddoldeb i bobol LHDTC+, a gofalu bod sgandalau ynghylch esgeulustod meddygol a cham-drin cleifion a oedd yn agored i niwed yn cael eu dadlennu i’r cyhoedd.

“Mae hefyd wedi helpu pobol i herio polisïau lles annheg megis treth ystafell wely.

“Mae’r Ddeddf wedi bod yn gwbl ganolog hefyd yn y frwydr dros gyfiawnder yn dilyn trychineb Hillsborough, ac wrth i ddioddefwyr y ‘treisiwr cab du’ herio’n llwyddiannus fethiannau difrifol yr Heddlu Metropolitanaidd. Ac mae’n sobreiddiol ystyried sut y gallai Deddf Hawliau Dynol wannach fod wedi arwain at anfon mwy byth o genhedlaeth Windrush o’r wlad.”

‘Annerbyniol’

Daeth Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol i’r casgliad nad oedd rheswm da dros wneud newidiadau sylweddol i’r Ddeddf.

Yn ôl llywodraethau Cymru a’r Alban “gellir dehongli’r penderfyniad i ddiystyru’r swmp hwnnw o dystiolaeth ac arbenigedd i fwrw ymlaen â chynlluniau fel ymosodiad ar y rhyddid a ddiogelir gan y Ddeddf Hawliau Dynol ar sail ideoleg”.

“Mae’r cynigion ar gyfer ‘Bil Hawliau modern’ yn annerbyniol ac yn ddiangen,” medden nhw.

“Rydym yn glir iawn ar y ffaith mai cadw’r Ddeddf Hawliau Dynol ar ei ffurf bresennol sy’n diogelu buddiannau pobol Cymru a’r Alban yn y ffordd orau.”

Cafodd y datganiad ei wneud gan Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yng Nghymru Mick Antoniw, a Christina McKelvie, Gweinidog Cydraddoldeb a Phobol Hŷn yr Alban.